23 Mehefin 2020
Yn ymateb i benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio cyflwyno Rheoliadau a Chanllawiau Statudol newydd ar gyfer dewis addysgu plant gartref yn y tymor Seneddol hwn, dwedodd Comisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland:
“Ddylai Llywodraeth Cymru ddim cefnu ar flynyddoedd o waith ar newidiadau brys i amddiffyn hawliau plant sy’n cael eu haddysg gartref.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi na fydd Rheoliadau a Chanllawiau Statudol newydd ar gyfer dewis addysgu plant gartref yn cael eu cyflwyno yn ystod y tymor seneddol hwn.
“Rwy’n deall bod pandemig y Coronafeirws wedi golygu bod angen lefelau digynsail o waith brys ar draws pob agwedd ar fywyd cyhoeddus, ond nid dyma’r adeg i dynnu’n ôl ymrwymiadau i hawliau plant sy’n cael eu haddysgu gartref.
“Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog i fynegi fy siom aruthrol ynghylch y penderfyniad hwn; yn nodi fy mhryderon a nifer o gwestiynau rwy’n credu bod angen eu hateb ynghylch sut cafodd y penderfyniadau hyn eu gwneud.
“Mae blynyddoedd o waith polisi, gan gynnwys sawl ymgynghoriad cyhoeddus, wedi digwydd er mwyn cyflawni newid yr oedd mawr angen amdano yn y maes hwn, ac roedd y canllawiau statudol newydd a’r rheoliadau i gael eu rhoi ar waith eleni.
“Roedd hi’n hen bryd i’r newid yma ddigwydd ac mae wedi bod yn destun argymhellion yn fy adroddiad blynyddol bob blwyddyn ers 2015/16. Mae ymateb y Llywodraeth i farwolaeth trasig Dylan Seabridge yn annigonol heb gyflwyno mesurau newydd sydd â grym statudol; barn a rennir yn yr adroddiad a gomisiynwyd gan y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol yn 2017 ac a amlygwyd gan yr Adolygiad Arfer Plant ar gyfer Dylan Seabridge.
“Mae’n annhebygol y bydd y pandemig yn diflannu’n fuan o gwbl. Y cyfan rydyn ni’n ei wybod ar hyn o bryd yw y bydd rhyw lefel o amharu yn parhau mor bell i’r dyfodol ag y gallwn ni ddychmygu, ac ar y sail honno, gallai sawl blwyddyn arall fynd heibio cyn i unrhyw gyfreithiau a chanllawiau newydd gael eu cyflwyno ynghylch addysgu gartref. Ac mae yna amharu parhaus ar bresenoldeb plant yn yr ysgol, gyda phryderon yn cynyddu ymysg plant o ran dychwelyd i’r ysgol a photensial i’r nifer y plant y dewisir eu haddysgu gartref gynyddu yn y dyfodol agos.
“Rwyf wedi nodi o’r blaen y byddwn i’n defnyddio fy mhwerau statudol i adolygu sut mae Llywodraeth Cymru yn ymarfer eu swyddogaethau pe na bai llawer o gynnydd wedi’i wneud i roi gwell amddiffyniad i hawliau plant sy’n cael eu haddysg gartref. Rwyf wedi ailadroddodd hyn i’r Llywodraeth yn fy llythyr ac rwy’n diswyl ei ymateb i nifer o gwestiynau rwyf wedi’u codi ynghylch y penderfyniadau a wnaed yn ddiweddar a sut mae hawliau plant wedi’u hystyried a’u cadarnhau fel rhan o hyn.”