5 Awst 2020
Mae pedwar Comisiynydd Plant y DU yn cydweithio i wahodd rhai sy’n cymryd rhan yn SAGE, y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau, i ateb cwestiynau gwyddonol am Covid-19 gan blant a phobl ifanc ledled y DU.
Grŵp o arbenigwyr gywddonol yw SAGE sy’n cael ei gyd-gadeirio gan Syr Patrick Vallance, Prif Gynghorydd Gwyddonol Llywodraeth y DU a’r Athro Chris Whitty, Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth y DU; efallai eich bod chi wedi gweld y ddau ar y teledu gyda Phrif Weinidog y DU.
Mae SAGE yn gyfrifol am roi cyngor gwyddonol i gefnogi Llywodraeth y DU, Llywodraethau’r Alban, Cymru a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i wneud penderfyniadau yn ystod argyfyngau, megis yr un presonol ar bandemig Covid19.
Ddydd Llun nesaf, 10 o Awst, fe fydd rhai sy’n cymryd rhan yn SAGE yn ateb cwestiynau gan blant a phobl ifanc o ar draws Cymru mewn trafodaeth fyd, fydd yn cael ei gadeirio gan Gomisiynydd Plant Lloegr. Dyma’ch cyfle chi i ddarganfod mwy am y gwyddoniaeth tu ôl i’r pandemig.
Fel pencampwyr plant, rydyn ni am wneud yn siwr fod gennym gwestiynau o bob cwr o’r DU.
Fe fydd tri o bobl ifanc pob gwlad yn medru gofyn ei cwestiwn yn fyw ar y diwrnod a bydd rhai cwestiynau ysgrifennedig yn cael eu hateb hefyd. Fe fyddwn ni’n rhoi’r cwestiynau fydd yn methu cael eu hateb ar y diwrnod mewn i themau (iechyd, addysg, teulu ayyb) i alluogi aelodau’r panel rannu gwybodaeth berthnasol. Fe fydd y wybodaeth hynny’n cael ei gyhoeddi ar ein gwefan.
Dyma sut i gymryd rhan
Ebostiwch eich cwestiwn at post@complantcymru.org.uk
Peidiwch anghofio cynnwys eich enw cyntaf, oed a lle rydych chi’n byw ac os ydych chi’n awyddus cymryd rhan yn fyw ddydd Llun, 10fed o Awst.
Mae angen y cwestiynau arnom erbyn 2pm, 6ed o Awst 2020
Os fydd eich cwestiwn chi yn cael ei ddewis fel cwestiwn i’w ofyn yn fyw dydd Llun fe fyddwn ni’n cysylltu gyda chi erbyn 2pm dydd Gwener, 7fed o Awst, pan fyddwn ni’n gofyn i chi a’ch rhiant/gofalwr gwblhau ffurflen ganiatad.
Fe fyddwn ni’n scirhau fod gennych yr holl wybodaeth sydd angen arnoch chi i gymryd rhan, ond cofiwch wneud yn siwr fod gyda chi oedolyn ry’ chi’n ymddiried ynddo/ynddi i’ch cefnogi.
Beth yw’ch cwestiwn chi?