10 Tachwedd 2020
Yn ymateb i ddatganiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, yn dweud ni fydd arholiadau TGAU, UG a Lefel A yng Nghymru yn 2021, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland,
Responding to the announcement from the Education Minister, Kirsty Williams, that there will be no GCSE, AS and A-Level exams in Wales in 2021, the Children’s Commissioner for Wales, Sally Holland, said,
“Dwi’n credu bod y Gweinidog wedi gwneud y penderfyniad cywir heddiw a dwi mor hapus fod llais a hawliau plant wedi chwarae rhan ganolog ym mhenderfyniadau’r Llywodraeth.
“Fy ffocws i nawr fydd i sicrhau fod y broses – y manylion – yn deg ac yn gwarchod lles pobl ifanc. Mae’n rhaid sicrhau mai blwyddyn o ddysgu yw hon, nid blwyddyn o ofidio. Dylai’r penderfyniad yma daweli meddwl pobl ifanc fydd yn eu galluogi i weithio tuag at eu cymhwysterau. Dwi am iddyn nhw fwynhau eu dysgu a’r holl all ysgolion a cholegau gynnig a’n bod ni’n rhoi rhyddid i athrawon i wneud beth mae’n nhw’n gwneud orau: nid rheoli ffactori arholiadau ond dysgu a datblygu sgiliau hanfodol fydd yn galluogi ein pobl ifanc gyrraedd eu llawn botenisal. Cadwch ddysgu, cadwch addysgu ac fe wnawn ni barhau gweithio i sicrhau for hawliau a llais plant yn ganolbwynt i’r camau nesaf.”