22 Tachwedd 2021
“Dwi’n falch iawn i weld sawl agwedd o’r cytundeb yma, yn cynnwys prydau ysgol am ddim i bob plentyn cynradd. Bydd hyn yn gam enfawr: bwyd da heb rwystrau, heb stigma. Buddiannau iechyd nawr, a hirdymor.
“Fe all datganoli elfennau o weinyddu lles cynnig ffyrdd eraill o daclo tlodi plant yn uniongyrchol. Dwi hefyd yn falch i weld cadarnhad o’r ymrwymiad i gael gwared ar elw o ofal plant.
“Ac mae’n bositif i weld materion eraill rydw i a fy nhîm wedi galw amdanyn nhw yma: model noddfa i bobl ifanc sydd ag argyfwng iechyd meddwl, a chynnig gofal plant sydd ddim yn gaeth i statws gwaith rhieni.
“Dwi hefyd yn croesawu ymrwymiadau ar faterion cydraddoldeb, yn gysylltiedig â hil a chydraddoldeb LGBTQ, yn ogystal ag anfantais trwy dlodi. Mae pobl ifanc yn siarad yn angerddol i fi am y materion yma.
“Mae yna awgrymiadau diddorol am ddatblygiadau cwricwlwm a chymwysterau, yn ogystal ag adolygiad o ddiwrnodau a thermau ysgol. Byddwn ni’n awyddus i weld y syniadau yma wrth iddyn nhw ddatblygu.