Datganiad – Neil Foden yn euog o gamdrin plant

Dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae gan bob plentyn yr hawl i fod yn ddiogel ac i ddysgu heb ofni camdriniaeth. Gwadodd Neil Foden yr hawl hon i blant, gan gymryd mantais o’i awdurdod a methu’r rhai yr oedd ganddo ddyletswydd i ofalu amdanynt.

“Mae’n rhaid nawr bod ymchwiliad llawn i’r gweithredoedd sy’n ymwneud â’r troseddau hyn a sut cafodd pryderon eu delio gyda nhw. Cysylltais â’r awdurdod lleol cyn gynted ag y cefais wybod am arestiad Mr Foden mewn cysylltiad â’r troseddau hyn. Byddaf yn cyfarfod ag uwch swyddogion yr awdurdod o fewn yr wythnosau nesaf i sefydlu pa gamau y byddant yn eu cymryd i ddysgu o hyn.

“Mae gan weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant ddyletswydd i godi unrhyw bryderon am gamdrin plant, ac mae’n rhaid gwrando ar blant sy’n dod ymlaen a’u cymryd o ddifrif. Os oes unrhyw un yn ansicr am godi unrhyw bryderon, neu sut i wneud hyn gallant gysylltu â fy swyddfa neu yr NSPCC.”