Rhoi sylwadau ar adroddiad ‘Rhyddid i ffynnu’ Pwyllgor Deisebau’r Senedd, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes:

“Rwy’n teimlo’n angerddol y dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn rhad ac am ddim i holl bobl ifanc Cymru, ac mae’n rhywbeth rwyf wedi galw’n gyson amdano ers dod yn Gomisiynydd Plant. Byddai gwneud hynny’n codi pwysau ariannol oddi ar ysgwyddau teuluoedd, yn helpu i gysylltu pobl ifanc â chyfleoedd, ac yn gam cadarnhaol i wneud Cymru’n wyrddach. Rwy’n falch iawn bod y pwyllgor wedi cydnabod gwerth yr alwad hon yn eu hadroddiad. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru i ymateb yn gadarnhaol, ac i symud ymlaen ac i flaenoriaethu’r cynnig pwysig hwn.”