Datganiad y Comisiynydd ar Heol Goffa

“Rydw i wedi ysgrifennu at yr awdurdod lleol i ofyn am gyfarfod er mwyn sefydlu manylion llawn eu cynlluniau a’u heffaith ar blant a phobl ifanc. Mae gan bob plentyn yr hawl i rannu barn ar y materion sy’n eu heffeithio nhw, a byddwn yn cyfarfod yn uniongyrchol â’r cyngor ysgol er mwyn i ni allu rhannu eu safbwyntiau a’u profiadau gyda rheiny sy’n gwneud penderfyniadau.”