Datganiad yn dilyn dedfrydiad Neil Foden

Dywedodd Rocio Cifuentes MBE:

“Rhaid i ni beidio â chaniatáu i’r profiadau dirdynnol yma i basio heb ein bod ni’n dysgu gwersi i ddiogelu plant yn well yn y dyfodol.

“Rydw i wedi cyfarfod ag uwch swyddogion yr awdurdod lleol a rydw i hefyd am gwrdd yn fuan â Chadeirydd y Bwrdd Diogelu. Fy mwriad fel Comisiynydd Plant yw gwneud yn siŵr bod y camau nesaf sy’n cael eu cymryd gan y bwrdd diogelu mor gryf a thrylwyr â phosibl. Rydw i am gael sicrwydd bod cwmpas cylch gwaith yr Adolygiad Ymarfer Plant yn ddigonol i allu dysgu y gwersi yma yn effeithiol. Tan fy mod i’n hyderus bod cwmpas y cylch gwaith yn ddigonol, rydw i’n cadw pob opsiwn ar agor.”