Ymateb y Comisiynydd Plant i ddata newydd Llywodraeth Cymru am blant sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol

“Mae’r ffigurau hyn yn dystiolaeth o’r newid cymdeithasol yn dilyn y pandemig.  Rwy’n cydnabod bod pwysau sylweddol ar awdurdodau lleol, ysgolion, rhieni a phlant a adlewyrchir yn y ffigurau hyn, ond mae’n bwysig inni ddeall mwy gan blant yn uniongyrchol am eu profiadau o’r ysgol ac unrhyw anawsterau sy’n ymwneud â’u llesiant.

“Mae cynllun gwaith o dan Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, sy’n ffocysu ar waith ymgysylltu pobl ifanc, ond nid yw hyn wedi symud ymlaen y tu hwnt i’r camau cychwynnol hyd yma, er mwyn clywed yn uniongyrchol gan blant a phobl ifanc am eu profiadau. Mae’n hollbwysig bod y gwaith hwn yn cychwyn yn ystod y tymor newydd, fel ein bod yn gallu deall yn well y cyd-destun sydd y tu ôl i’r ffigurau hyn, ac i sicrhau ein bod yn mynd i’r afael ag unrhyw rwystrau a heriau y mae plant yn eu hwynebu wrth gael mynediad i’w haddysg.”