Yn siarad am Fodiwl 8 Ymchwiliad Covid-19 y DU, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru:
“Rwy’n falch unwaith eto o fod wedi cael statws cyfranogwr craidd fel rhan o Ymchwiliad Covid y DU, y tro hwn fel rhan o fodiwl 8, sy’n archwilio effaith Covid-19 ar blant a phobl ifanc ledled y DU.
“Cynhaliodd fy swyddfa ystod o waith pwysig yn ystod y pandemig, gan gynnwys gwrando’n uniongyrchol ar brofiadau plant o ddau gyfnod clo cenedlaethol. Fy nod nawr yw sicrhau bod yr ymchwiliad yn elwa o wybodaeth ac arbenigedd fy swyddfa yn ei ymgais i ffurfio dealltwriaeth gynhwysfawr o’r effaith a’r heriau a ddaw yn sgil Covid-19 i blant a phobl ifanc yng Nghymru.’