Wrth ymateb i’r ymchwiliad annibynnol i gam-drin plant yn rhywiol ar Ynys Bŷr, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Rwy’n croesawu adroddiad heddiw a’i argymhellion, ac yn cydnabod dewrder goroeswyr sydd wedi rhannu eu profiadau fel rhan o’r adolygiad. Gydag unrhyw adolygiad, yr hyn sy’n hanfodol yw ein bod yn gweld newid cadarnhaol yn deillio ohono. Mae’n bwysig nawr bod yr argymhellion hynny’n cael eu gweithredu’n llawn a bod y gwersi a nodwyd gan yr adolygiad yn arwain at newidiadau effeithiol. Rwy’n croesawu bwriad yr awdurdod lleol i sefydlu grŵp ymateb sydd â rôl parhaus o graffu ar drefniadau diogelu ar yr ynys, ac rydw i wedi ysgrifennu atyn nhw fel gall fy swyddfa gynnig unrhyw gyngor ac arbenigedd annibynnol perthnasol.”