Yn ymateb i adroddiad ‘Plant sydd ar yr ymylon’ y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Mae adroddiad y pwyllgor yn glir bod cyfleoedd wedi’u colli i gadw plant yn ddiogel rhag cael eu hecsbloetio a’u cam-drin yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cysylltiad cryf rhwng y risgiau sylweddol hyn â phresenoldeb ysgol a gwaharddiadau. Mae hwn yn fethiant cenedlaethol y mae’n rhaid mynd i’r afael gyda fe. Rwy’n cefnogi galwadau’r pwyllgor yn y maes hwn am gryfhau’r ymdrechion i ddiogelu plant sy’n agored i ecsbloetio a cham-drin ac rwy’n annog Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion hyn, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn llawn a dechrau eu rhoi ar waith yn ddi-oed.”