Wrth ymateb i ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar Genedl Noddfa yn y Senedd ar 11 Chwefror, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Mae hwn yn parhau i fod yn gyfnod o rethreg ymrannol, gan fygwth niweidio cydlyniant cymunedol, lles, ac mewn rhai achosion, diogelwch ffoaduriaid a cheiswyr lloches. Mae’n bwysig felly gweld Llywodraeth Cymru yn ailddatgan ei hymrwymiad i Genedl Noddfa, a’i nod i greu cymunedau cryf a chydlynol lle mae gan bawb gyfle i ffynnu. Wrth groesawu ailadrodd yr ymrwymiad hwn, hoffwn hefyd weld Llywodraeth Cymru yn gwneud mwy i adlewyrchu pryderon a phrofiadau plant a phobl ifanc sy’n ceisio noddfa yng Nghymru, ac ymrwymo i fodloni eu hanghenion penodol. Mae hyn yn cynnwys gwneud prydau ysgol am ddim yn realiti i bob plentyn beth bynnag yw statws mewnfudo eu rhieni, a chadarnhau eu cefnogaeth i weithredu gwasanaeth Gwarcheidwaeth Genedlaethol ar gyfer pob plentyn digwmni yng Nghymru, ac amlinellu sut y byddant yn gweithredu ar hyn.”