Weithiau bydda i’n deffro yng nghanol nos ac yn meddwl mod i’n cael breuddwyd cas lle mae plant a phobl ifanc yn methu mynd i gwrdd â’u ffrindiau, na dysgu gyda’u hathrawon, na mynd i’r clwb brecwast, na chymryd rhan mewn chwaraeon, na chyflwyno drama ysgol, na’r holl wyrthiau eraill sy’n digwydd mewn ysgolion a chymunedau yng Nghymru bob dydd.
Mae mor anodd credu nad breuddwyd cas yw hyn.
Ac rwy’n gwybod bydd e ddim yn para am byth, ond mae hyd yn oed wythnos yn gallu teimlo fel amser hir. Ac rydw i eisiau anfon neges at blant a phobl ifanc yn dweud nad dyma’r normal newydd. Cyn gynted â phosib bydd eich bywydau’n cynnwys yr holl bethau rydych chi’n hiraethu amdanyn nhw ar hyn o bryd.
Alla i ddim honni mod i’n gwybod sut rydych chi’n teimlo, ond rwy’n gwybod bod teimladau cryf am hyn yn hollol naturiol. Dyw e ddim yn deg. Bydd rhai ohonoch chi’n anobeithio am weld teulu a ffrindiau. Bydd rhai ohonoch chi’n pryderu am eich iechyd neu am bobl rydych chi’n eu caru. Mae rhai ohonoch chi wedi bod yn gweithio’n galed dros ben ar gyfer arholiadau sydd wedi eu canslo.
Ac er mod i ddim yn gwybod sut rydych chi’n teimlo, rydw i yn gwybod bod newidiadau’n anodd, yn enwedig os ydyn nhw’n annisgwyl. Doedd neb yn disgwyl i’r ysgolion gau, ac i’r arholiadau gael eu canslo.
Roedd yn sioc.
Felly os ydych chi eisiau rhannu eich teimladau neu ofyn cwestiynau am hyn, fe ddylech chi. Siaradwch ag oedolyn rydych chi’n eu trystio. Yn eich cartref, neu yn rhithwir. Rydw i hefyd wedi cynnwys rhifau pobl a sefydliadau eraill sy’n gallu helpu ar waelod y blog yma.
Hwb arlein
Os ydych chi eisiau mwy o wybodaeth, gallwch chi ymweld â’m hwb ar-lein hefyd. Bydda i’n diweddaru hynny’n gyson, felly gallwch chi anfon cwestiynau ata i, fel mod i’n gwybod pa wybodaeth rydych chi angen.
Rydw i hefyd eisiau sicrhau pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru bod gennych chi sgiliau unigryw, dealltwriaeth unigryw, a phrofiad unigryw. Rydych chi’n anhygoel. A dyw hynny ddim yn mynd i newid.
Daliwch ati i fod yn chi eich hunain, ac i fod yn anhygoel. Cofiwch estyn allan os ydych chi eisiau help.
Fel arfer yn fy swydd i rydw i’n gallu mynd i gwrdd â phlant a phobl ifanc i glywed beth sy’n bwysig i chi.
Alla i ddim gwneud hynny ar hyn o bryd. Byddwn i wrth fy modd yn gwybod sut rydych chi’n teimlo a beth rydych chi’n gwneud gartre. Mae croeso i chi anfon e-bost ata i: post@complantcymru.org.uk . Rwy’n addo bydda i’n darllen pob neges.