Mae llawer o blant yng Nghymru yn wynebu heriau ychwanegol i gael y pethau sydd angen arnynt i gyrraedd eu potensial llawn.
Yma rydyn ni wedi crybwyll:
- yr hawliau sydd gan blant i’w helpu i gyrraedd eu potensiall llawn
- pwy i gysylltu â nhw os ydych chi’n poeni
- beth gallwch chi ei wneud i helpu
-
Dyma rai o’r hawliau sydd gan eich plentyn i dyfu i gyrraedd ei botensial llawn.
Mae hawliau plant i gyd wedi eu hysgrifennu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Erthygl 2
Dylai pob plentyn gael ei drin yn gyfartal
Erthygl 6
Mae gan bob plentyn yr hawl i fyw, tyfu a chyrraedd ei botensial llawn
Erthygl 23
Mae gan blant ag anableddau yr hawl i gael gofal a chymorth arbennig fel y gallant fyw bywyd llawn ac annibynnol
Erthygl 24
Mae gan blant yr hawl i fwyd a dŵr da ac i weld y meddyg os ydych yn sâl
Erthygl 28
Mae gan blant yr hawl i gael addysg
Erthygl 29
Mae gan blant yr hawl i fod y gorau y gallant fod. Dylai addysg eu helpu i ddatblygu eu sgiliau a’u doniau’n llawn.
Erthygl 31
Mae gan blant yr hawl i ymlacio a chwarae
Erthygl 39
Dylai pob plentyn gael cymorth arbennig os ydynt wedi cael eu camdrin
-
P’un a oes gan eich plentyn anabledd corfforol neu anabledd dysgu, mae ganddo’r hawl i gyrraedd ei botensial llawn, fel pob plentyn arall.
Os ydych yn poeni nad yw’ch plentyn yn cael y cymorth y mae arno ei angen i gyrraedd ei botensial llawn, cysylltwch â’n tîm.
Dyma sefydliadau arall gall fod o gymorth
-
Yng Nghymru, mae’r ffordd y mae pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael eu haddysg yn newid.
Mae deddf newydd o’r enw Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn bodoli sy’n dweud:
- y dylai pob person ifanc gael ei helpu mor gynnar â phosibl i gyrraedd ei botensial llawn
- bod angen i weithwyr proffesiynol asesu anghenion unigol plant a theilwra’r cymorth maen nhw’n ei roi iddynt
- bod angen i blant a theuluoedd gyfrannu at ddatblygu eu cynlluniau unigol
Dechreuodd y ddeddf newydd i newid y broses ar gyfer plant o fis Medi 2021.
Mae’r gyfraith yn dweud bod rhaid i hawliau plant gael eu hystyried pan wneir penderfyniadau ynglŷn ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Os ydych yn poeni nad yw’ch plentyn yn cael y cymorth y mae arno ei angen, cysylltwch â’n tîm.
-
Mae gan bob plentyn yr hawl i gyrraedd ei botensial llawn, beth bynnag fo’i hil, ei rywedd, neu b’un a oes ganddo anabledd ai peidio.
Mae pawb yn y Deyrnas Unedig yn cael ei warchod gan y Ddeddf Cydraddoldeb sy’n dweud na ddylai neb gael ei drin yn anffafriol oherwydd ei nodweddion personol.
Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn hefyd yn dweud na ddylai unrhyw blentyn gael ei drin yn wahanol oherwydd pwy ydyw.
Er mwyn sicrhau nad yw plant yn wynebu gwahaniaethu wrth ddefnyddio gwasanaethau, mae sawl peth y gall sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant ei wneud:
- Sicrhau bod eu staff yn gwybod am hawliau plant a’r Ddeddf Cydraddoldeb
- Sicrhau bod eu proses yn ystyried sut gallai eu penderfyniadau effeithio ar grwpiau unigol o blant, a beth allant ei wneud i sicrhau bod pob plentyn yn elwa
- Ystyried a yw eu gwasanaeth yn helpu pob grŵp o bobl ifanc y mae arnynt ei angen ac, os na, cymryd camau i’w wella
- Rhoi gwybodaeth i blant mewn iaith neu fformat sy’n briodol i’w hoedran a’u haeddfedrwydd, eu diwylliant, neu eu hanabledd
Mae gan y Cyngor Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wasanaeth cyngor cyfreithiol rhad ac am ddim i helpu pobl sy’n credu y mae eu hawliau o dan y Ddeddf Cydraddoldeb wedi cael eu torri:
-
Mae chwarae mor bwysig i blant fel ei fod yn cael ei ddiogelu gan y gyfraith yng Nghymru, ac mae gan bob plentyn hawl benodol i chwarae o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Mae deddf o’r enw Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 yn dweud bod rhaid i gynghorau asesu’r cyfleoedd chwarae sydd ar gael i’r plant yn eu hardal a sicrhau eu bod yn ddigon da.
Dylent ddefnyddio’r wybodaeth a gânt o’u hasesiad i wneud gwelliannau i sicrhau bod pob plentyn yn eu hardal yn gallu chwarae.
Dylech allu dod o hyd i hyn ar wefan eich cyngor.
-
Mae pob rhiant yn gwybod bod magu plant yn gallu bod yn anodd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi creu adnodd i helpu rhieni i ymdopi â’r heriau pob dydd maen nhw’n eu hwynebu.
Mae’r cyngor a roddir wedi’i seilio ar hawliau plant, a rhoi’r dechrau gorau i bob plentyn.
Gofalwyr maeth a rhieni i blant mabwysiedig
I chi sy’n ofalwyr maeth, neu’n rieni i blant mabwysiedig, mae gan y plant yn eich gofal hawliau ychwanegol ac mae modd i chi eu cefnogi i gael mynediad atynt.
Eiriolaeth
Mae gan blant mewn gofal, Orchymyn Gwarchodaeth Arbennig sy’n golygu fod gan blant mabwysiedig yr hawl i gael mynediad at adfocatiaeth er mwyn sicrhau bod llais pob plentyn, eu dymuniadau a’u teimladau yn cael eu clywed o ran y penderfyniadau sy’n effeithio eu bywydau.
Mae modd i chi gael mwy o wybodaeth ynglyn â mynediad at adfocatiaeth i’ch plentyn yma.
Darpariaeth addysgol
Mae ganddynt hefyd yr hawl i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth addysgol sy’n gymwys i’w hangenion ac mae’n angenrheidiol iddynt gael blaenoriaeth yn ystod gweithrediadau derbyn i’r ysgol er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth addas.