Lawrlwythwch ein Hadroddiad Blynyddol 2019-20
Lawrlwythwch ein Cyfrifon 2019-20
Rhai uchafbwyntiau
Dyma rhai o’r gwaith rydyn ni wedi cyflawni rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020:
Gweithio gyda phlant, pobl ifanc ac athrawon
- Gwrando ar, gweithio a siarad gyda 15,504 o blant a phobl ifanc ledled Cymru mewn digwyddiadau, gweithdai a chyfarfodydd
- Mae 606 o ysgolion cynradd ledled Cymru nawr yn rhan o’n cynllun Llysgenhadon Gwych
- Hyfforddi 475 o blant a 219 o staff addysgu i ddod yn llysgenhadon hawliau
- Sicrhau 7,404 o ymatebion gan blant a phobl ifanc a 360 o ymatebion gan athrawon i’r ail arolwg hawliau addysg gynhalion ni
Adnoddau
- Creu adnoddau newydd i ysgolion a sefydliadau, gan gynnwys her hawliau i Sgowtiaid a Geidiau, adnoddau hawliau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol, gwersi hawliau a chân newydd ar gyfer plant 3-7 oed, adnodd actifyddiaeth a Hwb Gwybodaeth Coronafeirws.
Hawliau mewn polisi
- Ymateb i o leiaf 28 o ymgyngoriadau’r Cynulliad, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, gan greu newid amlwg mewn nifer o bolisïau newydd a deddfwriaeth.
Helpu plant a theuluoedd
- Cafodd ein gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor ei defnyddio 627 o weithiau
Hyfforddi hawliau plant
- Hyfforddi 200 o weithwyr blynyddoedd cynnar proffesiynol ar ein cynnig newydd i leoliadau blynyddoedd cynnar, Bitw Bach
Cyflawniadau
Dyma rhai o’n cyflawniadau rhwng 1 Ebrill 2019 a 31 Mawrth 2020:
Gwrthfwlio
Cafodd canllaw newydd i ysgolion ei greu gyda help ein gwaith ar wrthfwlio.
Dylai ysgolion nawr recordio pob tro mae bwlio yn digwydd, sy’n eu gwneud nhw’n fwy atebol i blant a rhieni, ac yn eu helpu i fonitro eu gwaith ar wrthfwlio yn fwy manwl.
Amddiffyniad Cyfartal
Rhoddwyd amddiffyniad cyfartal i blant yn y gyfraith yn erbyn cosb corfforol. Rydyn ni wedi mynnu y newid hwn ers blynyddoedd.
Mae’n golygu bod dim hawl gan oedolyn sydd yn yn llys oherwydd ei fod wedi ymosod ar blentyn i ddweud bod yr ymosodiad yn ‘gosb rhesymol’.
Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol
Ymwelon ni â phob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yng Nghymru i’w herio ar y ffordd y mae plant yn derbyn y cymorth sydd angen arnyn nhw yn eu hardaloedd.
Hawliau plant mewn sefydliadau
Cefnogi mwy o gyrff cyhoeddus blaenllaw i fabwysiadu dull seiliedig ar hawliau plant, gan gynnwys holl fyrddau iechyd Cymru
Hyfforddi hawliau plant\
- Cynnal sesiynau hyfforddiant arloesol ar hawliau gyda thadau a’u plant yng Ngharchar Ei Mawrhydi Berwyn
- Cynnal hyfforddiant hawliau plant ledled Cymru, gan gynnwys 200 o weithwyr proffesiynol blynyddoedd cynnar