10 Rhagfyr 2020
Datganiad gan Gomisiynydd Plant Cymru ym ymateb i ddatganiad Llywodraeth Cymru heddiw:
“Ar yr un diwrnod y cyhoeddodd y CU y dylid osgoi cau ysgolion yn genedlaethol ar bob cyfrif a bod buddion cadw ysgolion ar agor yn trechu popeth arall, nid dyma’r penderfyniad cywir i blant a phobl ifanc Cymru.
“Er fy mod i’n derbyn difrifoldeb yr argyfwng iechyd cyhoeddus a bod yna gyfrifoldeb arnom ni gyd i gadw’n gilydd yn ddiogel, mae’r penderfyniad yma yn dwysau’r amhariadau i addysg ein plant dros y misoedd diwethaf.
“Dwi heb weld y cyngor gwyddonol sy’n cefnogi’r penderfyniad heddiw na chwaith yr asesiad yr effaith fydd hyn yn anochel yn ei gael ar ein pobl ifanc. Dwi hefyd heb weld eglurhad o’r penderfyniad i bobl ifanc fydd yn cael eu heffeithio gyda’r penderfyniad yma ar fyr rybudd. O’r herwydd dwi ddim yn medru cefnogi’r penderfyniad ar hyn o bryd.
“Dwi’n annog y Llywodraeth i gyhoeddi ar frys ei hasesiad o ystyriaethau ar hawliau plant a’r dystiolaeth wyddonol sydd yn sail i’r penderfyniad yma.”