5 Chwefror 2021
Yn ymateb i’r newyddion am y cyfnod Sylfaen yn dychweld ar ôl hanner tymor, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:
“Dwi’n teimlo rhyddhad heddiw clywed fod y wlad yn medru cymryd camau cyntaf ar y llwybr o adfer drwy groesawi ein dysgwyr ifanc nol i’r ysgol.
“Dros y bythefnos ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn ymgynghori gyda bron i 20,000 o blant a phobl ifanc. Mae pob oed – o 3 i 18 – wedi rhannu teimladau negyddol cryf am yr effaith mae’r pandemig yn ei gael ar eu bywydau. Fe wnaeth rheiny o’r categori 3- 7 oed wnaeth gymryd rhan, siarad am weld eisiau ffrindiau, aelodau’r teulu a phrofiadau:
- “Dwi’n teimlo’n unig gan mod i methu gweld ffrindiau na fy athro. Dwi’n gweld eu heisiau a chael cyfle i chwarae. Dwi’n gweld eisiau eu caredigrwydd a’u rhannu.” (oed 5, de orllewin Cymru)*
- “Rydyn ni methu gwneud dim byd hwyl heblaw am fynd am llawer o deithiau cerdded. Dwi’n teimlo na fydd pethau bydd yn gwella.” (oed 5, de orllewin Cymru)*
- “Dwi’n ddiflas.” (oed 5, gogledd ddwyrain Cymru)*
- “Byddai’n well ‘da fi fod yn yr ysgol yn chwarae.” (oed 5, de ddwyrain Cymru)*
- (*dyfyniadau wedi cael eu cyfieithu o’r Saesneg gwrieddiol)
“Mi fydd y plant yma yn buddio’n fawr o’r cyhoeddiad heddiw. Mae’n newyddiol calonogol i ni gyd y dystiolaeth gan y grŵp annibynnol TAG ei bod hi’n ddiogel i’r disgyblion yma ddychwelyd i’r ysgol.
“Mae’r ddyletswydd sydd arnom ni oll yn parhau i gadw’r raddfa o haint yn isel er mwyn galluogi Llywodraeth i adael mwy o ddysgwyr nol i ysgolion a cholegau mor gynted ag sy’n bosibl; mae’n galondid gweld bod addysg dal yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth pan fydd rhwystrau’n codi a dwi’n eu hannog i roi diweddariad cyson a chlur i bob disgybl.”