18 Mawrth 2021
Yn ddiweddar, mae Sally Holland a’i thîm wedi datblygu canllaw newydd gyda gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol ac ar eu cyfer – Y Ffordd Gywir: Gofal Cymdeithasol.
Mae’r ychwanegiad diweddaraf hwn, y trydydd mewn cyfres o ganllawiau i weithwyr proffesiynol, sy’n ceisio gwreiddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant yn ymarfer y sector cyhoeddus, yn gwneud ymgais i rannu’r dulliau cyffredin a ddefnyddir gan wasanaethau wrth weithredu egwyddorion dull seiliedig ar hawliau plant, ac mae’n cynnwys cyngor ac arweiniad gan bobl ifanc eu hunain.
Mae hefyd yn ceisio cryfhau ymhellach y cyfrifoldeb ar bawb sy’n cyflawni swyddogaethau Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i roi sylw dyledus i hawliau plant trwy amlygu enghreifftiau o sut mae gwasanaethau’n hybu hawliau a sut mae modd cyflawni’r ddyletswydd hon yn eu hymarfer pob dydd.
Bydd y canllaw yn cael ei lansio mewn digwyddiad rhithwir di-dâl ar 14 Ebrill (manylion cofrestru yma), fydd yn addas ar gyfer y rhai sydd eisoes yn ymarferwyr a’r rhai sydd â diddordeb mewn gofal cymdeithasol, ac yno bydd y Comisiynydd yn trafod y canllaw’n fanwl, rhannu profiadau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal ac ateb cwestiynau am y gwaith wrth y gynulleidfa rithwir.