Derbyniodd Canolfan Ieuenctid Aberdaugleddau gyllid yn ddiweddar i lansio eu prosiect gwirfoddoli “Fy Amser.” Menter wirfoddoli yw “Fy Amser” i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgaredd cadarnhaol yn y gymuned i helpu i wella Aberdaugleddau. Gall pobl ifanc (11 i 25 oed) gofrestru ar gyfer y cynllun “Fy Amser” a chymryd rhan mewn nifer o weithgareddau, gyda gweithiwr ieuenctid neu unrhyw gyfleoedd gwirfoddoli sy’n bodoli eisoes y gall pobl ifanc ymgymryd â nhw’n barod. Gall y gweithgareddau gynnwys codi sbwriel, gwirfoddoli ar gyfer eich clwb chwaraeon, elusen a sefydliadau cymunedol lleol.
Os hoffech gofresrtru ar gyfer y cynllun neu os ydych yn fusnes lleol annibynnol sydd eisiau cofrestru i fod ar eu cronfa ddata, neu os ydych am gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â:
julie.bevington@pembrokeshire.gov.uk
neu ffoniwch:
Wrth glicio ar y linc isod gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal leol.
I ddod o hyd i gyfleoedd, teipiwch eich cod post yn y blwch chwilio a dewiswch faint o filltiroedd y byddech chi’n gallu eu teithio.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio oedran y cyfle gwirfoddoli ddwywaith cyn i chi wneud cais.
Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd i wirfoddoli i Barnardo’s wrth glicio ar y linc isod. Maen nhw’n derbyn gwirfoddolwyr dros 14 oed.
Barnardo’s – Cyfleoedd i Wirfoddoli
Gallwch ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli gyda Mencap wrth glicio ar y dudalen we isod. Mae angen i wirfoddolwyr fod dros 16 oed, unrhyw wirfoddolwr sydd o dan 18 oed fe fydd angen caniatâd gan riant neu ofalwr.