Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul: Lleisiau Plant yn Herio Hiliaeth
Mae Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul yn Grangetown, Caerdydd. O ran y dysgu, mae’r ysgol yn defnyddio dull gweithredu seiliedig ar ymholiadau i alluogi plant i lywio eu dysgu eu hunain trwy ofyn cwestiynau ac ymchwilio i’r syniadau mae ganddyn nhw’r diddordeb mwyaf ynddynt. Yn ystod un tymor yn 2021, bu Blwyddyn 6 yn canolbwyntio ar y cwestiwn ymholiad, ‘Beth yw ystyr perthyn?’
Dewisodd y plant feysydd ffocws o fewn yr ymholiad eang hwn, a oedd yn cynnwys:
- dysgu am hanes yr Ymerodraeth Brydeinig;
- archwilio profiad ffoaduriaid a cheiswyr lloches trwy gyfrwng llyfrau a’r newyddion;
- archwilio beth sy’n gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn perthyn;
- dathlu Mis Hanes Pobl Dduon trwy ganolbwyntio ar yr arwres leol Betty Campbell;
- archwilio eu gweledigaeth eu hunain ar gyfer y Gymanwlad;
- ysgrifennu llythyr at y Frenhines, a chael ateb ganddi.
Yn rhan o’u hymholiad, lluniodd y plant eu fideo eu hunain i esbonio sut maen nhw’n herio hiliaeth pan fyddan nhw’n ei gweld neu’n ei chlywed. Trwy’r fideo hwn, bu’r plant yn archwilio egwyddor cydraddoldeb a pheidio â chamwahaniaethu. Dysgodd y plant fod gan bob person dynol fynediad cyfartal at hawliau dynol a bod yr hawl i gydraddoldeb yn perthyn i bawb. Rhan allweddol o’r ymholiad hwn oedd bod y plant yn archwilio eu rôl eu hunain fel dinasyddion gweithredol sydd â’r hawl i fynegi eu barn a chael gwrandawiad.
Ar ddiwedd yr ymholiad, cymerodd y plant ran mewn perfformiad dealltwriaeth, lle cyflwynon nhw eu syniadau eu hunain ynghylch gweledigaeth newydd ar gyfer y Gymanwlad. Ymhlith eu syniadau roedd addysg i bawb, cyflawni targedau amgylcheddol byd-eang a choleddu pob cred grefyddol. Roedd cysyniad eu hawl eu hunain i fynegi barn yn rhan hanfodol o ddod i ddeall democratiaeth. Cafodd y plant eu cymryd o ddifrif gan oedolion dylanwadol: anfonodd y Frenhines ateb i’w llythyr, a buon nhw’n trafod eu barn gyda Chomisiynydd Plant Cymru. Gwelson nhw fod eu lleisiau’n cael gwrandawiad a’u bod nhw’n bwysig.
Ysgol Plasmawr: Balch
Balch yw grŵp gwrth-hiliaeth yr ysgol, sy’n cael ei redeg gan ddisgyblion. Maen nhw’n cwrdd unwaith yr wythnos lle maen nhw’n cael trafodaethau strwythuredig ar gydraddoldeb a hefyd yn trafod unrhyw ddigwyddiadau/achosion o hiliaeth sy’n digwydd yn yr ysgol. Maen nhw hefyd yn trafod a delio ag unrhyw bryderon sydd gan ddisgyblion.
Mae gan y grŵp rôl mewn addysgu staff yr ysgol yn ogystal â’r disgyblion. Mae staff yn gallu gofyn y grŵp am eu barn a gwirio os yw pethau’n addas. Mae cynlluniau hefyd i Falch hyfforddi staff trwy wneud gweithdy yn ystod eu sesiwn HMS. Maen nhw’n bwriadu tynnu sylw at faterion o bwys a thaclo ‘rhagfarn ddiarwybod’.
Teimlai’r grŵp taw diffyg addysg yn aml yw’r rheswm am yr achosion o hiliaeth yn yr ysgol. Maen nhw’n ceisio cysylltu â blynyddoedd 7-9 yn benodol er mwyn darganfod beth sy’n eu poeni nhw a beth gall y grŵp ei wneud i wella profiadau disgyblion yr ysgol. Maen nhw hefyd yn gobeithio defnyddio gwasanaethau ac amser cofrestru i wneud mwy i godi ymwybyddiaeth, er enghraifft trwy hybu dealltwriaeth o ddiwylliannau gwahanol.
Mae’r grŵp wedi sylweddoli dyw iaith a ‘jôcs’ hiliol ddim yn digwydd mor aml yn y blynyddoedd iau ers iddyn nhw ddechrau eu hymyriadau. Achosodd Covid a’r cyfnodau clo problemau yn cyrraedd disgyblion, felly gwelwyd cynnydd yn yr ymddygiad wrth i ddisgyblion dychwelyd nôl i’r ysgol yn Haf 2020, ond mae hyn wedi lleihau eto wrth i Falch cadw at eu gwaith.
Mae gan yr ysgol grwpiau cydraddoldeb gwahanol yn yr ysgol hefyd e.e. Digon (grŵp hawliau LHDTC+). Mae hyn yn lleihau pwysau ar ddisgyblion penodol yn yr ysgol yn gorfod delio â phob achos o anghydraddoldeb ac yn rhoi cyfle i ddisgyblion taclo anghydraddoldebau tuag at grwpiau gwahanol ar sawl ffrynt yn lle.