Yn dilyn ymlaen o lwyddiant ein cynlluniau gwersi ar gyfer y Cyfnod Sylfaen, rydyn ni wedi creu pecyn gweithgareddau ac adnodd hyfforddi ar gyfer lleoliadau Blynyddoedd Cynnar.
Hoffen ni ddiolch i’r plant a fu’n rhan o dreialu’r adnodd am eu hadborth gonest, oedd yn help mawr.
Bydd yr adnodd yma yn eich cefnogi i gyflwyno a gwreiddio hawliau plant yn eich lleoliad. Mae’r adnodd yn cynnwys syniadau cynllunio ymatebol i chi eu defnyddio yn eich lleoliad. Rydyn ni hefyd wedi cynnwys syniadau ar gyfer caneuon a llyfrau y gallwch chi eu defnyddio yn eich lleoliad:
Efallai bydd yn well gan rai lleoliadau ddefnyddio cynlluniau gwersi, ac rydyn ni wedi creu 4 o gynlluniau gwersi i leoliadau eu defnyddio i archwilio hawliau plant:
Bydd yr hyfforddiant yma’n eich helpu i feddwl sut edrychiad sydd ar ddull hawliau plant o fewn eich lleoliad. Nid oes angen gwybodaeth flaenorol o’r CCUHP arnoch i gymryd rhan yn yr hyfforddiant yma.
Gallwch gwblhau’r hyfforddiant ar eich pen eich hun neu gyda’ch tîm. Bydd angen i chi agor y Pwerbwynt a llenwi’r llyfr gwaith wrth i chi fynd trwy bob sleid. Rydym wedi cynnwys troslais ar y Pwerbwynt i’ch arwain drwy’r hyfforddiant, os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch gyda’r hyfforddiant cysylltwch â post@complantcymru.org.uk
Os hoffech gael tystysgrif ar gyfer eich cofnodion, cwblhewch eich bwydlen newid a danfonwch y gwaith at y cyfeiriad ebost yma: post@complantcymru.org.uk
Fe welwch isod enghreifftiau o arferion diddorol o wahanol leoliadau a sefydliadau ledled Cymru. Os hoffech gyflwyno eich ymarfer diddorol eich hun anfonwch nhw i post@complantcymru.org.uk
Sylwch – nad ydym wedi ymweld â phob un o’r gosodiadau a amlygir isod.
“Mae gennym Hawliau,” mae’r gân yma’n archwilio hawliau plant ac yn siarad am y pethau sydd eu hangen ar blant i dyfu i fyny’n hapus, yn iach ac yn ddiogel. Cafodd y gân ei hysgrifennu a’i chyfansoddi gan Sara Lewis, Dyfan Jones a Blwyddyn 3 Ysgol Gynradd Creigiau.
Rydyn ni’n awgrymu canu’r gân mewn cylch gyda’ch grŵp, a’ch bod chi’n arwain y rhannau actol (efallai byddwch chi am ddefnyddio Arwyddion Makaton).
We use cookies on our website to improve user experience. For full details please see our Privacy Policy. Click ALLOW if you’re happy for us to do this. You can also choose to disable all optional cookies by clicking DISABLE.