Fel sefydliad cyhoeddus, rhaid i ni wneud yn siwr ein bod ni’n defnyddio yr arian mae’r Llywodraeth yn rhoi i ni mewn ffordd effeithiol. Rhaid i ni hefyd sicrhau bod ein sefydliad yn cael ei reoli yn effeithiol.
Mae ein Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn chwarae rhan bwysig. Mae’r Pwyllgor yn cynghori a chefnogi’r Comisiynydd yn y meysydd yma:
- llywodraethu corfforaethol
- rheoli risg
- rheolaeth fewnol
Mae o leiaf tri aelod ar y pwyllgor sydd ddim yn gweithio i’r Comisiynydd. Mae’r rhain yn cael eu galw’n Aelodau Anweithredol.
Darllenwch Gylch Gorchyl y Pwyllgor
Darllenwch am eu gwaith yn ein hadroddiad blynyddol diweddaraf