Gwersi Hawliau Cyfoes

  • Cynlluniau gwersi gwrthfwlio – Lluniwyd y cynlluniau gwersi hyn ar gyfer Wythnos Gwrthfwlio 2017, ac mae modd eu defnyddio i archwilio bwlio gyda phob grŵp oed mewn ysgolion cynradd.
  • Seiberfwlio – Rydyn ni wedi creu adnoddau newydd i helpu plant i arwain y ffordd wrth daclo seiberfwlio yn yr ysgol.
  • Tlodi Plant – Gall ein hadnoddau helpu ysgolion i asesu cost eu diwrnod ysgol, ac amlygu ffyrdd o helpu teuluoedd.
  • Fi yw Fi – Rydyn ni wedi gweithio gyda grwpiau o bobl ifanc ar ein prosiect ‘Fi yw Fi’ i fynd i’r afael â stereoteipiau. Yn y gwersi hyn bydd disgyblion yn archwilio hunaniaeth.
  • Adnodd Pontio’r Cenedlaethau – Mae’r adnodd hwn yn annog ysgolion cynradd i sefydlu clybiau pontio’r cenedlaethau eu hunain gyda chynllun gwers, a chyfres o fideos.
  • Prosiect Gwyrdd-droi (yr amgylchedd) – Mae prynu gwisg ysgol newydd bob blwyddyn yn rhoi straen ar sefyllfa ariannol teuluoedd. Mae ein hadnodd yn helpu plant i ddeall effaith amgylcheddol creu dillad, ac yn eu helpu i gynllunio’u siopau eu hunain ar gyfer cyfnewid gwisg ysgol.
  • Prosiect Pleidlais – Er nad yw plant o dan 16 oed yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd, mae gan bob plentyn yng Nghymru yr hawl i gael eu clywed a’u cymryd o ddifrif (Erthygl 12). Efallai y bydd plant yn teimlo bod rhai o’u hawliau’n cael eu gwrthod ar hyn o bryd, neu efallai eu bod yn angerddol am fater penodol ac eisiau gwneud newid. Rydym wedi paratoi dwy wers ar etholiadau’r Senedd a democratiaeth i chi wneud yn y dosbarth.
  • Gwneud Gwahaniaeth – Gwneud gwahaniaeth: Mae canllaw person ifanc ar weithredu yn helpu pobl ifanc i godi eu llais am y materion sydd o bwys iddynt.
  • Perthnasoedd Cadarnhaol – adnodd yw AGENDA i helpu i ddysgu plant am berthnasoedd cadarnhaol, ac am faterion fel cydsyniad, parch a chydraddoldeb.