Angen gweithredu ar unwaith i amddiffyn pobl iau a hŷn rhag effaith costau byw

5 Medi 2022

Comisiynwyr yn galw am weithredu ar unwaith i amddiffyn pobl iau a hŷn rhag effaith ‘gadarnhaol bosibl’ yr argyfwng sy’n ymwneud â chostau byw

 Mae Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes MBE, a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE, wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd yn galw ar y Prif Weinidog newydd, Liz Truss, i gymryd camau ar unwaith i ddiogelu pobl iau a hŷn rhag effaith ddinistriol bosibl yr argyfwng costau byw.

Darllenwch y datganiad llawn isod:

“Rydyn ni’n galw ar y Prif Weinidog newydd i gymryd camau ar unwaith i ddiogelu pobl hŷn ac iau rhag effaith ddinistriol bosibl yr argyfwng costau byw wrth i ni nesáu at y gaeaf, a fydd yn drychinebus i iechyd pobl oni bai fod cymorth pellach yn cael ei ddarparu ar frys.

“Bydd methu â chymryd camau yn peryglu iechyd a lles degau o filoedd o bobl iau a hŷn ledled Cymru oherwydd salwch a chyflyrau corfforol a achosir gan dai oer, llaith a/neu ddiffyg maeth, a fydd, yn anffodus, mewn rhai achosion, yn arwain at farwolaethau y gellir eu hosgoi.

“Heb weithredu, byddwn hefyd yn gweld dirywiad yn iechyd meddwl pobl iau a hŷn oherwydd y straen a’r pryder o fyw mewn aelwydydd sy’n wynebu pwysau ariannol, a bydd ein gwasanaethau cyhoeddus – sydd eisoes o dan bwysau sylweddol – yn cael eu gwthio i ben eu tennyn.

“Mae angen mwy o gymorth ariannol i bobl y gaeaf hwn, ochr yn ochr â newid tymor hwy a fydd yn sicrhau bod gan bobl ddigon o incwm i dalu am gostau byw sylfaenol, fel bwyd ac ynni.

“I bobl iau, rhaid i’r Prif Weinidog newydd weithredu ar unwaith i roi arian ym mhocedi teuluoedd.

“Mae pob elfen o fywyd plentyn yn cael ei heffeithio gan effaith tlodi, ac mae cynifer ohonynt yn mynd i brofi caledi eithafol y gaeaf hwn. Daw’r argyfwng hwn gyda 190,000 o blant eisoes yn byw mewn tlodi yng Nghymru.

“Ar gyfer pobl hŷn, rhaid i’r Prif Weinidog newydd ymrwymo i adfer mecanwaith y Clo Triphlyg ar Bensiwn y Wladwriaeth ar gyfer 2023-24, ochr yn ochr ag adolygu pa mor ddigonol yw Pensiwn y Wladwriaeth.

“Rhaid iddynt hefyd adolygu ac uwchraddio’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn barhaol cyn taliad y flwyddyn nesaf, er mwyn cydnabod y gostyngiad sylweddol yn ei werth ers iddo gael ei osod ddiwethaf; a darparu system gofrestru awtomatig ar gyfer Credyd Pensiwn i sicrhau nad yw’r rheini sydd ar yr incwm isaf yn colli allan ar y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo fel sy’n digwydd ar hyn o bryd.

“Ers rhy hir, mae’r drafodaeth a’r ddadl ynghylch y ffordd orau o gefnogi pobl o wahanol oed wedi canolbwyntio gormod ar osod cenedlaethau yn erbyn ei gilydd a chreu naratifau rhwygol a allai ein harwain at ras i’r gwaelod, lle bydd pobl o bob oed yn oer, yn llwglyd a heb gymorth.

“Mae’r pris y bydd yn rhaid i unigolion, a chymdeithas yn gyffredinol, ei dalu os caniateir i hyn ddigwydd oherwydd diffyg gweithredu gan y llywodraeth yn gwbl annerbyniol, a dyna pam mae’n rhaid i’r Prif Weinidog newydd weithredu’n gyflym ac yn bendant i ddarparu’r gefnogaeth hanfodol, a allai achub bywydau, gyda chynifer o bobl iau a hŷn yn mynd yn fwy a mwy anobeithiol am y dydd. Oherwydd eu hoed, mae pobl hŷn ac iau yn unigryw o agored i’r argyfwng tanwydd gaeaf y gaeaf hwn, a rhaid i’r Prif Weinidog newydd gamu i’r adwy i roi blaenoriaeth i’w hanghenion.”