Stori i blant 2-3 oed (Agor fel Word Document)
Stori i blant 4-7 oed (Agor fel Word Document)
Bydd y dau stori yma yn eich helpu i:
- esbonio i’ch plentyn ifanc pam rydyn ni eisiau clywed ei farn
- gasglu ei safbwyntiau, gyda chyfarwyddiadau clir
Anfon yr atebion nôl
Gallwch anfon trwy:
- Ebost i: post@complantcymru.org.uk
- Bost i: Comisiynydd Plant, Ty Llywellyn, Parc Busnes Glan yr Harbwr, Heol yr Harbwr, Port Talbot, SA13 1SB
Beth byddwn ni’n gwneud gyda’ch atebion
Bydd eich atebion yn ein helpu i ddeall bywydau a phrofiadau plant, ac i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth sydd angen iddyn nhw wneud i wella bywydau plant.
Blwyddyn nesaf, byddwn ni’n cyhoeddi cynllun gwaith ar sail yr atebion i’n holiadur. Bydd hyn yn dangos y gwaith rydyn ni’n bwriadu gwneud fel swyddfa i ddylanwadu newidiadau positif i blant.
Am y Comisiynydd
Rocio Cifuentes yw’r Comisiynydd Plant.
Mae ein swyddfa yn hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru. Mae gan bob plentyn dan 18 hawliau sy’n rhan o Gonfenswin y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Rydyn ni’n annibynnol, a ddim yn rhan o’r Llywodraeth.
Rydyn ni’n gweithio i bob plentyn sydd:
- o dan 18 mlwydd oed
- neu hyd at 21 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal, neu hyd at 25 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal a dal yn astudio
Os rydych chi angen cyngor
- wedi ei drin yn anheg
- ddim yn derbyn ei hawliau