Dyma pob fersiwn o’r holiadur:
- Linc i’r holiadur ar gyfer plant a phobl ifanc 7-18 oed. Gallwch anfon y linc yn uniongyrchol at ddisgyblion. Mae’r linc yn cynnwys fersiwn o’r holiadur gyda symbolau Widgit ar gyfer plant sydd angen help ychwanegol. Hefyd yn cynnwys fersiwn Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
- Adnodd i blant gydag anghenion dysgu ychwanegol. Mae’n cynnwys fersiwn i blant gydag anabledd dysgu dwys a lluosog (PMLD)
- Amser stori i blant 2-3 oed
- Amser stori i blant 4-7 oed
- Holiadur i weithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda phlant, fel eich bod chi yn gallu rhannu eich barn personol.
- Holiadur i rieni/gofalwyr
Canllaw a Chwestiynau Cyffredin
Lawrlwythwch canllaw i athrawon ac arweinwyr ieunctid (PDF)
Pecyn gwasanaeth/amser tiwtor a chôd QR
Cyflwyniad Powerpoint byr i’w ddefnyddio yn ystod gwasanaeth/amser tiwtor
Côd QR i holiaduron plant a phobl ifanc
Beth byddwn ni’n gwneud gyda’r atebion
Bydd yr atebion yn ein helpu i ddeall bywydau a phrofiadau plant, ac i ddweud wrth Lywodraeth Cymru beth sydd angen iddyn nhw wneud i wella bywydau plant.
Blwyddyn nesaf, byddwn ni’n cyhoeddi cynllun gwaith ar sail yr atebion i’n holiadur. Bydd hyn yn dangos y gwaith rydyn ni’n bwriadu gwneud fel swyddfa i ddylanwadu newidiadau positif i blant.
Am y Comisiynydd
Rocio Cifuentes yw’r Comisiynydd Plant.
Mae ein swyddfa yn hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru. Mae gan bob plentyn dan 18 hawliau sy’n rhan o Gonfenswin y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Rydyn ni’n annibynnol, a ddim yn rhan o’r Llywodraeth.
Rydyn ni’n gweithio i bob plentyn sydd:
- o dan 18 mlwydd oed
- neu hyd at 21 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal, neu hyd at 25 os ydyn nhw wedi bod mewn gofal a dal yn astudio
Os rydych chi angen cyngor
- wedi ei drin yn anheg
- ddim yn derbyn ei hawliau