17 Tachwedd 2022
Yn ymateb i Ddatganiad yr Hydref Jeremy Hunt heddiw, dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru, Bruce Adamson, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc yr Alban a Koulla Yiasouma, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon:
“Mae’n bwysig bod gwersi’n cael eu dysgu o’r dirwasgiadau blaenorol, yn enwedig yr un ddaeth yn sgil yr argyfwng banciau. Ni ddylai teuluoedd sy’n dibynnu ar nawdd cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus i oroesi, orfod ddelio a’r baich.
“Dywedodd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidol heddiw (17 o Dachwedd 2022), fod incwm gwario pob person mewn aelwyd gyffredin, sy’n mesur safonnau byw, yn debyg o ostwng – y gostyngiad mwyaf a welwyd ers sefydlu’r SYG (neu’r ONS) ers 1956.
“Er y newidiadau i’r cap budd-daliadau a budd-daliadau eu hun cafodd eu cyhoeddi heddiw gan Lywodraeth y DU, mae realiti i deuluoedd yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru yn golygu y bydd lefelau tlodi’n parhau, y bydd anghydraddoldebau’n parhau ac mai plant fydd yn cymryd y baich.
“Mae’r tri ohonom wedi clywed yn uniongyrchol wrth blant am sut eu bod yn teimlo fod tlodi’n dwyn eu plentyndod ond dyw hyn ddim yn rhywbeth anochel. Does dim rhaid i ni dderbyn gweld plant yn llwgi, bod yn oer, methu dysgu a chymryd rhan mewn cymdeithas yn llawn. Mae hyn oll yn cael effaith anghyfartal ar y plant hynny sy’n wynebu’r bygwth mwyaf i’w hawliau’n barod.
“Mae byw mewn tlodi nid yn unig yn effeithio ar brofiadau plant o blentyndod, mae e hefyd yn cwtogi cyfleoedd bywyd fel oedolion, ac yn bwydo’r cylch didrugaredd o dlodi rhwng cenedlaethau ac yn tanseilio cydlyniad cymdeithasol.
“Mae’n rhaid i lywodraethau’r DU a’r rhai datganoledig ddefnyddio’u holl adnoddau i’r effaith i warchod hawliau plant. Mae angen i ni weld pob Llywodraeth yn selio’u monitro a’u hymateb i’r argyfwng yma ar hawliau plant. Mae’n rhaid i ni weld nhw’n gweithredu mewn modd sy’n targedu’n effeithiol i leihau’r effaith ar blant a’u gallu nhw i gael mynediad a phrofi eu hawliau.
“Dyw ein galwadau heb newid. Rhaid i Lywodraethau ar frys:
- Gynyddu incwm teuluoedd sydd mewn tlodi, drwy daliadau plant, a chynyddu’r nifer sy’n a’r hawl am help sy’n cymryd yr help
- Diwygio’r system nawdd cymdeithasol, adolygu’r meini prawf am gefnogaeth a gwaredu’r cap budd-daliadau cosbol a’r terfyn dau-blentyn
- Lleihau’r costau i deuluoedd yn enwedig costau sy’n ymwneud ag addysg, trafnidiaeth a dyled i awdurdodau lleol
- Targedu’r gweithredu i deuluoedd bregus a sicrhau bod teuluoedd yn cael mynediad i ofal plant sy’n fforddiadwy ac o safon uchel