Yn rhy aml, mae’r ffordd rydyn ni’n trefnu ein bywydau yn golygu bod gwahanol genedlaethau ddim yn cael rhyw lawer i’w wneud â’i gilydd. Er bod neiniau a theidiau’n chwarae rhan anferth ym mywydau plant yng Nghymru – does dim ond angen i chi fynd at gât unrhyw ysgol neu i unrhyw barc i weld hynny – prin yw’r cyfeillion sydd gan lawer ohonon ni y tu allan i’n grŵp oedran ein hunain.
Yn yr ysgol mae plant yn cael eu trefnu fel eu bod yn bennaf yn creu ffrindiau o fewn yr un grŵp blwyddyn, yn yr ysgolion mwyaf beth bynnag. Mae llai o blant yn chwarae ‘allan’ y dyddiau hyn, felly dydyn nhw ddim o reidrwydd yn dod i gysylltiad â gweddill eu cymuned leol ond trwy eu rhieni. Mae unigrwydd yn broblem fawr i bobl hŷn, sydd o bosib yn byw’n bell o’u teulu, yn enwedig os yw eu ffrindiau wedi marw.
Roedd yn galonogol iawn, felly, dod ar draws dau brosiect yn ddiweddar lle roedd plant yn cael cyfle i gymysgu gyda chenedlaethau hŷn. Yn y ddau achos roedd hyn yn digwydd mewn ffordd oedd yn golygu bod pawb yn gallu cyfrannu rhywbeth. Partneriaeth yn Aberystwyth yw ‘Clwb Ni’, rhwng disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Plascrug a thrigolion dau o gynlluniau tai cysgodol Tai Ceredigion.
Mae aelodau o Clwb Ni yn cwrdd bob mis i chwarae gêmau, gwneud gweithgareddau crefft a sgwrsio. Cafodd aelodau’r clwb daith diwrnod i Gaerdydd yn ddiweddar, ac mewn cyfarfod gyda mi, Sarah Rochira, y Comisiynydd Pobl Hŷn, a’r AC lleol, Elin Jones, roedd eu brwdfrydedd ynghylch y clwb yn amlwg. Doedd dim amheuaeth bod y plant a thrigolion Tai Ceredigion – yr oedd rhai ohonynt yn eu 90au – yn cael hwyl gyda’i gilydd. Ar ôl ein cyfarfod, aethon nhw i gyd i gael pizza ac roedd pawb i weld wrth eu bodd. Roeddwn i’n dwlu gweld eu bod nhw ddim yn ffitio i’r stereoteipiau, gan fod rhai o’r bobl hŷn yn defnyddio ffonau clyfar yn fedrus, a rhai plant yn dweud eu bod nhw’n mwynhau chwarae gêmau henffasiwn.
Yr un diwrnod fe fues i mewn digwyddiad oedd yng ngofal WAWA, sefydliad ym maes y celfyddydau, i ddathlu prosiect adrodd storïau oedd yn dod ag oedolion o Sefydliad y Deillion, Caerdydd a disgyblion o ysgolion cynradd Ninian Park a Kitchener yng Nghaerdydd, at ei gilydd. Fe glywais i hanesion gwych gan ddisgyblion blwyddyn 5 yn y ddwy ysgol, ac fe esboniodd yr oedolion oedd â nam ar eu golwg gymaint roedden nhw wedi mwynhau gwrando ar storïau a’u hadrodd.
Mae’r prosiectau yma’n gwneud pethau syml iawn, ond maen nhw’n bwerus dros ben. Maen nhw’n creu cysylltiadau cymdeithasol, yn chwalu stereoteipiau heb fod yn nawddoglyd, ac yn dangos bod gan bawb rywbeth i’w gyfrannu. Rydw i’n gwybod bod llawer o enghreifftiau eraill o waith rhwng y cenedlaethau yn digwydd ar draws Cymru. Os nad oes ‘Clwb Ni’ yn eich ysgol chi, beth am ystyried cychwyn un?