16 Chwefror 2023
Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gyllid ychwanegol i ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru:
“Bydd hyn yn gwneud gwahaniaeth go iawn i lawer o blant a’u teuluoedd. Mae darpariaeth blynyddoedd cynnar o safon uchel yn hollbwysig i ddatblygiad plentyn, ac yn enwedig i blant yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig. Rydw i hefyd yn croesawu’r ffocws ar gryfhau darpariaeth trwy’r iaith Gymraeg. Ond rydw i hefyd eisiau gweld y math yma o ymyriad unigol fel rhan o gynllun tlodi plant uchelgeisiol, a gyda ffocws clir – un cynllun cenedlaethol sy’n dangos i ni’r hyn mae’r Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i daclo tlodi plant ac i leihau ei effaith, gyda thargedau ac amserlen glir. Heb hyn, mae’n anodd i ni allu dweud beth yw effaith cyfunol ymyriadau’r llywodraeth o ran lleihau effaith tlodi ar blant a’u teuluoedd.”