Ynghyd â sefydliadau hawliau plant ar draws y DU, mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw am gael gwared ar y terfyn dau blentyn, mewn llythyr ar y cyd at arweinwyr y pleidiau yn San Steffan.
Gallwch ddarllen mwy ar y dudalen we hon.
Dywedodd hi:
“Rwy’n bryderus iawn am effaith tlodi plant yng Nghymru, ac rwyf wedi galw’n barhaus ar Lywodraeth Cymru i gynllunio a monitro camau gweithredu penodol a mesuradwy i helpu’r niferoedd enfawr o blant sy’n cael eu heffeithio. Ond mae’n amlwg mai Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am y prif ysgogwyr cymorth ariannol i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Mae newidiadau amlwg y gallai ac y dylai Llywodraeth y DU ei wneud i daliadau lles, a fyddai’n rhoi mwy o arian ym mhocedi miloedd o deuluoedd ar unwaith. Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar y terfyn dau blentyn, sydd i bob pwrpas yn cosbi plant am fod â mwy nag un brawd neu chwaer, gan eu hamddifadu o’u hawliau dynol i safon byw, iechyd a datblygiad da. Mae hwn yn bolisi creulon y mae’n rhaid ei ddileu.”
DIWEDD