Adroddiad Addysg mewn Lleoliadau Iechyd
I blant sy’n treulio amser mewn ysbyty neu leoliad gofal iechyd arall, mae dysgu tra’u bod yn derbyn gofal yn meddwl mwy na dim ond cadw i fyny â’u gwaith ysgol. Mae’n helpu i leihau straen, rhoi cyfleoedd i gymdeithasu, a thynnu eu meddwl oddi ar eu triniaeth feddygol.
Ond mae Comisiynydd Plant Cymru wedi rhybuddio bod plant yng Nghymru yn wynebu anghysondebau yn y ddarpariaeth yma, sy’n arwain at rai yn cael llai o gyfleoedd i ddysgu nag eraill, neu weithiau’n colli allan yn llwyr.
Yn ôl y Comisiynydd, mae plant sy’n byw yng Nghymru hefyd yn cael llai o hawliau i addysg na phlant yn Lloegr pan maen nhw’n derbyn triniaeth. Yn Lloegr, mae gofyniad cyfreithiol i addysg heblaw yn yr ysgol fod yn amser llawn, oni bai nad yw er lles gorau’r plentyn. Nid oes gofyniad amser llawn yng Nghymru.
Mewn adroddiad newydd, mae Rocio Cifuentes MBE yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod pob plentyn sy’n cael gofal iechyd parhaus fel claf mewnol yn cael cynnig addysgol llawn amser. Mae hi hefyd wedi galw am ddull cyson o ariannu addysg mewn lleoliadau gofal iechyd ar draws awdurdodau lleol, i wneud yn siŵr bod plant ledled Cymru i gyd yn derbyn eu hawl i addysg.
Barn Plant
Roedd plant a gymerodd ran yn ymchwil y Comisiynydd Plant yn gwerthfawrogi eu profiadau addysgol tra’n cael triniaeth, gan dynnu sylw at y manteision eang y mae addysg yn cael ar eu lles:
“Fe wnaeth gymaint o wahaniaeth ar wneud i mi deimlo’n ‘normal.” – Person ifanc 16-oed yn yr ysbyty am fwy nag 8 wythnos
“Mae’n golygu mod i’n cael y gwaith diweddara o’r ysgol brif ffrwd, fel bod llai o straen a phryder ynghylch dychwelyd.”
Ond er eu bod yn gadarnhaol am yr addysg a gawsant, roedd plant hefyd eisiau mwy o gyfleoedd i ddysgu:
“Mae sesiynau dialysis yn ddiflas i blant ifanc. Mae angen mwy nag awr o ddysgu llawn hwyl. Dyw e ddim yn ddigon o amser.” – 12-mlwydd-oed yn yr ysbyty am fwy nag 8 wythnos
Ategwyd y pryder hwn gan weithwyr proffesiynol a gymerodd ran yn ymchwil y Comisiynydd: dim ond traean ohynynt oedd yn teimlo bod lefel presennol yr addysg a ddarperir yn ddigon i ddiwallu anghenion y plant y maent yn gweithio gyda nhw.
Profiadau Anghyson
Yn ôl y Comisiynydd Plant, mae anghysondebau yn y modd y mae’r math yma o addysg yn cael ei ariannu ar draws Cymru yn golygu bod rhai plant yn derbyn mwy o ddysgu nag eraill.
Cyfrifoldeb awdurdod lleol y plentyn yw darparu addysg lle bynnag y mae plentyn yn derbyn yr addysg hynny, ac fel arfer caiff awdurdodau eu bilio gan leoliadau gofal iechyd am yr addysg y mae plentyn yn ei derbyn yno.
Ond roedd ymatebion awdurdodau lleol i arolwg y Comisiynydd yn dangos gwahaniaethau sylweddol yn yr oriau addysg y mae pob awdurdod yn dweud y byddan nhw’n eu hariannu, yn amrywio o 5 i 20 awr yr wythnos ledled Cymru.
Mae adroddiad y Comisiynydd hefyd yn amlygu rhai o’r profiadau negyddol y mae’r trefniadau ariannu presennol wedi’u hachosi i deuluoedd. Mewn un achos, roedd rhiant wedi cael gwybod, gan ysgol ei phlentyn, am fil yr oedd yr ysgol wedi’i dderbyn yn dilyn arhosiad ei phlentyn yn yr ysbyty, ar ôl i’r plentyn gymryd rhan mewn sesiwn dysgu yna. Achosodd hyn straen iddi yn ystod cyfnod anodd.
Plant sy’n colli allan
Dywedodd 93% o weithwyr gofal iechyd yr arolwg bod yna blant penodol sydd weithiau yn colli mas ar addysg mewn lleoliad gofal iechyd.
Roedd hyn yn cynnwys pobl ifanc dros 16 oed, plant ag anghenion dysgu ychwanegol, a phlant sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Er nad oes dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau i ddarparu’r math hwn o addysg i bobl ifanc dros 16 oed, mae trefniadau ariannu lleol yn golygu bod rhai yn gallu dysgu pan fyddant yn cael triniaeth, tra bod eraill yn colli allan.
Mewn un achos, cysylltodd rhiant person ifanc 17 oed â swyddfa’r Comisiynydd i esbonio bod addysg y person ifanc wedi benu. Pan roedd e’n 16 oed, roedd yn gallu cael addysg. Ond ers troi’n 17 oed, oherwydd adnoddau cyfyngedig, daeth yr addysg i ben, er gwaethaf barn gweithwyr meddygol proffesiynol y byddai’r plentyn yn elwa o’r addysg fel rhan o’u cynllun gofal. Mewn lleoliadau eraill, clywodd swyddfa’r Comisiynydd fod trefniadau ariannu lleol yn golygu eu bod yn gallu cynnig addysg ôl-16 yn gyfforddus.
Mae’r Comisiynydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc o dan 18 oed yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth addysgol pan fyddant yn glaf mewnol mewn lleoliad gofal iechyd.
Wrth wneud sylwadau ar y canfyddiadau, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Yr hyn a welwn o’n hymchwil yw gwerth dysgu i blant a phobl ifanc sy’n derbyn triniaeth. Nid mater o gadw i fyny â gwaith ysgol yn unig yw hyn; mae hefyd yn ymwneud â llawenydd dysgu, ymdeimlad o normalrwydd, a chysylltu ag eraill. mae gan blant a phobl ifanc hawl i addysg o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ond mewn gwirionedd, gallwn weld o’r ymchwil hwn nad yw pob plentyn yn cael yr hawl honno pan fyddant yn cael triniaeth.
“Mae yna amrywiaeth enfawr yn yr oriau y mae awdurdodau lleol yn dweud y byddan nhw’n eu hariannu, a gwahaniaethau ar draws Cymru yn y trefniadau ariannu rhwng awdurdodau a darparwyr. Beth mae hyn yn ei olygu yw y gallai fod gennych chi un plentyn sy’n cael yr addysg sydd ei hangen arnyn nhw, a phlentyn mewn amgylchiadau tebyg mewn rhan wahanol o Gymru sydd ddim yn derbyn yr addysg.
“Mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu dyletswyddau awdurdodau lleol yn y maes hwn i wneud yn siŵr bod gan bob plentyn sy’n derbyn addysg mewn lleoliad iechyd yn cael cynnig addysgol llawn amser, a bod trefniadau ariannu yn gyson ledled Cymru ac yn gweithio’n effeithiol i blant.”