Mae’r profiadau rydyn ni wedi’u clywed wrth lunio’r adroddiad yma yn awgrymu, gwaetha’r modd, bod llawer iawn o blant a phobl ifanc yn profi hiliaeth a digwyddiadau hiliol yn yr ysgol uwchradd, ac ychydig sydd â hyder yn y dull o ddelio â hyn. Trafododd athrawon a rhanddeiliaid brofiadau tebyg, gan adleisio materion diffyg hyder a diffyg eglurder ynghylch sut mae ymateb i’r digwyddiadau hyn.
Beth wneathon ni
Clywon ni brofiadau 170 o blant a phobl ifanc o amrywiaeth eang o gefndiroedd lleiafrifol, o ardaloedd awdurdod lleol ar draws Cymru. Buon ni hefyd yn casglu barn a phrofiadau gan athrawon, penaethiaid ac addysgwyr eraill o gyfanswm o 17 ysgol, yn ogystal â chlywed gan amrywiaeth o arbenigwyr a rhanddeiliaid yn y maes. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i bawb a fu’n rhannu eu barn ac yn rhoi mor hael o’u hamser.
Beth glywson ni
Rydyn ni wedi clywed gan blant a phobl ifanc o leiafrifoedd ethnig ar draws Cymru eu bod yn profi hiliaeth mewn llawer o ffyrdd, o ficro-ymosodedd i gam-drin geiriol a chorfforol, ac ar waelod y raddfa, bod y profiad hwnnw bron yn rhan normal o’u bywydau.
Rydyn ni hefyd wedi clywed am lawer o resymau, gyda phrofiadau personol yn eu hegluro, pam na fydd dysgwyr o reidrwydd yn adrodd am ddigwyddiadau hiliol, gan gynnwys: normaleiddio hiliaeth, methu gwybod beth i’w ddisgwyl os byddan nhw’n rhoi gwybod amdano; ofn y gallai’r broses eu llethu’n emosiynol a bod yn llafurus; a pheidio disgwyl bydd llawer yn digwydd beth bynnag.
Mae hynny’n golygu, at ei gilydd, fod dadansoddiad cost-budd yn golygu, fel arfer, na welir digwyddiadau hiliol fel rhywbeth mae’n werth rhoi gwybod amdano. Mae hynny’n awgrymu bod yr achosion yr adroddir amdanynt mewn gwirionedd yn frig gweladwy mynydd iâ anferth.
At ei gilydd, adroddodd athrawon nad ydynt yn teimlo’n barod nac yn hyderus i ymateb i hiliaeth. Bydden nhw’n hoffi cael arweiniad mwy ymarferol a chliriach, yn ogystal . chefnogaeth barhaus ynghylch sut dylen nhw ymateb i’r broblem hon wrth iddi esblygu. Mae’n eglur bod hiliaeth, fel cymdeithas, yn newid yn barhaus, ac un her amlwg y tynnodd addysgwyr sylw ati oedd cadw i fyny gyda’r derminoleg, sy’n newid mor gyflym, a gwybod beth sy’n dderbyniol neu beidio.
Beth rydyn ni eisiau i ddigwydd
Mae’r adroddiad yn gwneud 22 argymhelliad, yn cynnwys:
- Dylai Llywodraeth Cymru roi eglurhad yn y canllawiau gwrthfwlio diwygiedig sydd ar ddod sut mae’n disgwyl i ysgolion ymateb i ddigwyddiadau hiliol, eu cofnodi, ac ymdrin â nhw.
- Yn ei chanllawiau gwrthfwlio diwygiedig, dylai Llywodraeth Cymru roi cyfarwyddyd i ysgolion ddelio â digwyddiadau hiliol a’u cofnodi fel rhai cyfatebol i ddigwyddiadau diogelu, gan sicrhau bod systemau ysgol a rhai rhanbarthol ar gyfer mynegi pryderon yn weladwy ac yn hygyrch.
- Dylai Llywodraeth Cymru fwrw ymlaen ar frys gyda’r gwaith a gynlluniwyd i ddatblygu system Cymru gyfan o gofnodi ac adrodd am ddigwyddiadau hiliol mewn ysgolion, gan sicrhau bod sylfaen gyfreithiol ar gyfer casglu’r data yma, ac egluro gwahanol rolau a chyfrifoldebau ysgolion, awdurdodau lleol a chyrff eraill o fewn y system yma.
- Dylai Consortia Gwella Ysgolion Cymru ddatblygu rôl ‘pencampwr gwrth-hiliaeth’ a grwpiau llywio sy’n cynnwys pobl a sefydliadau â phrofiad bywyd i gefnogi ysgolion i ddiwygio polisiau, gan ymateb i ddigwyddiadau a chodi lefel sgiliau staff ar y pwnc yma, yn ogystal â chynnig cyngor uniongyrchol i ysgolion ar faterion byw. Dylai’r rolau hyn gael eu cysylltu â Chydlynwyr Rhanbarthol arfaethedig ARWAP Llywodraeth Cymru.
- Dylai polis.au ysgol ar ymateb i ddigwyddiadau hiliol gael eu cyfleu i bob disgybl mewn modd hygyrch a hwylus i blant a phobl ifanc, er mwyn cefnogi dysgu a datblygu diwyliant gwrth-hiliol yn yr ysgol.
- Dylai polisiau ysgol ar ymateb i ddigwyddiadau hiliol fod yn eglur ynghylch beth sy’n digwydd i’r person sy’n adrodd, a’r person yr honnir iddynt fod yn hiliol, a dylai gynnwys adran ar ddarparu mecanweithiau adborth rheolaidd, amserol a sensitif i bawb a fu’n ymwneud .’r digwyddiad ac y bu’n effeithio arnyn nhw.
- Dylai hyfforddiant am hiliaeth a gwrth-hiliaeth ac adnabod ac ymateb i ddigwyddiadau hiliol fod yn orfodol i’r holl arweinwyr addysg, athrawon a staff cefnogi, a chael ei adnewyddu o leiaf bob 3 blynedd, yn debyg i hyfforddiant diogelu. Er mwyn sicrhau safon a chysondeb, dylid cydlynu hyn trwy rwydwaith DARPL, a ariannir gan Lywodraeth Cymru, a’i gysylltu . gwaith yr Academi Genedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Addysgol (NAEL).
- Dylai CBAC roi blaenoriaeth i sicrhau cynnydd yn y gwaith sydd eisoes yn digwydd gyda DARPL i adolygu a diwygio rhestrau testunau yn y meysydd llafur sy’n cynnwys iaith hiliol, gan gydnabod effaith hynny ar ddysgwyr ac amgylchedd/diwylliant yr ysgol.