Tlodi Plant

Faint o blant sy’n byw mewn tlodi yng Nghymru?

Mae tua 30% o blant yng Nghymru yn byw mewn tlodi. Mae 26% o blant sy’n byw gyda theulu lle mae rhiant yn gweithio yn mewn tlodi.

Beth yw’r ymchwil ar dlodi plant yng Nghymru?

Roedd ein holiadur cenedlaethol Gobeithion i Gymru yn dangos i ni faint o bryder roedd yna am dlodi plant ymysg plant a phobl ifanc yng Nghymru.

Dywedodd 45% o blant 7-11 oed eu bod nhw’n poeni am gael digon i fwyta, ac roedd nifer sylweddol o blant ac oedolion yn poeni am gostau yn  ymwneud ag anghenion sylfaenol.

Gan y Trussel Trust, clywon ni straeon am blentyn yn cyrraedd yr ysgol gydag un moron am ei ginio, a phlentyn yn crio achos roedd gyda nhw dyllau yn ei esgidiau a roedd rhaid defnyddio papur i’w lenwi.

Ymchwil a gwybodaeth berthnasol arall

Mae’r erthygl yma o dîm ymchwil Senedd Cymru yn dangos rhai o’r wybodaeth diweddaraf  ar dlodi plant yng Nghymru.

Mae yna hefyd adroddiadau, ymchwil, ac erthyglau gan sawl grwpiau eraill, yn cynnwys:

Strategaeth Tlodi Plant Cymru 2024

Fis Ionawr 2024, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru strategaeth tlodi plant newydd, yn amlinellu ei blaenoriaethau ac amcanion ar gyfer lleihau tlodi plant.

Daeth hyn ar ôl cyfnod o ymgynghori ar strategaeth drafft, lle galwodd y Comisynydd ac eraill ar Lywodraeth Cymru i gynnwys targedau clir a chanlyniadau mesuradwy yn y strategaeth.

Children’s Commissioner’s view on the child poverty strategy

Barn y Comisiynydd ar y strategaeth

Mae’r Comisiynydd, ynghyd â sawl sefydliad arall, wedi’i siomi’n fawr gan y strategaeth. Nid yw’r strategaeth yn ateb difrifoldeb y sefyllfa sy’n wynebu plant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw.

Mae’r Comisiynydd wedi bod yn glir yn ei barn fod yn rhaid i’r strategaeth gynnwys:

Nid yw’n glir sut y bydd unrhyw ran o’r strategaeth yn troi’n gamau gweithredu clir a sut na phryd y byddent yn cael eu cyflawni, gan ei gwneud yn fwy anodd i ddal i gyfrif.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw ar Gymru i greu taliad plant fel sydd yn bodoli yn yr Alban; cam sy’n rhoi cymorth ychwanegol i deuluoedd sy’n byw mewn tlodi.

Tlodi Bwyd

Yn dilyn ein Uwchgynhadledd Tlodi Plant ddiweddar ym mis Tachwedd 2023, roedd tlodi bwyd yng Nghymru yn parhau i fod yn thema gyson ac yn bryder mawr i’r Comisiynydd.

Byddwn ni’n parhau i siarad gyda rhanddeiliaid ac i ystyried y tystiolaeth diweddaraf i lywio ein cynlluniau i fynd i’r afael â’r maes hwn. Mae’r wybodaeth hon yn cynnwys:

Rydym hefyd wedi casglu data drwy gyfarfodydd â rhanddeiliaid gan gynnwys:

  • Trussel Trust
  • Y Bevan Foundation, a’u hymchwil sydd ar y gweill gyda phlant teuluoedd nad oes ganddynt fynediad at arian cyhoeddus
  • Arolwg a gynhaliwyd gan riant mewn ysgol leol yng Ngogledd Cymru

Os hoffech chi glywed mwy am ein gwaith ar dlodi plant, gan gynnwys tlodi bwyd, neu eisiau rannu unrhyw wybodaeth am y pwnc yma, cysylltwch â ni.