Yn ymateb i adroddiad Estyn, Gwella presenoldeb mewn ysgolion uwchradd, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes:
“Mae’r adroddiad hwn yn cadarnhau’r ystod eang o heriau cymhleth sy’n wynebu pobl ifanc yng Nghymru heddiw, o iechyd meddwl ac anghenion dysgu ychwanegol i gost trafnidiaeth.
“Mae tlodi yn cael effaith sylweddol ac eang ar fywydau pobl ifanc. Yn anffodus, nid yw’n syndod bod adroddiad Estyn yn nodi perthynas rhwng incwm teuluol plentyn a phresenoldeb ysgol. Dylai targedu cymorth yn effeithiol at blant sy’n byw mewn tlodi fod yn agwedd hanfodol ar ymdrechion i wella presenoldeb, ac rwy’n gobeithio ei weld yn cael ei gynnwys yn strategaeth tlodi plant Llywodraeth Cymru. Rydw i’n croesawu awgrym yr adroddiad y gallai adolygu rheolau cludiant ysgol chwarae rhan bwysig – mae’r pellter y mae rhai pobl ifanc yn gorfod teithio i’r ysgol yn annibynnol tra bod eu teuluoedd yn eu gweld hi’n anodd i dalu am bethau angenrheidiol yn gallu bod yn rhwystr sylweddol. Rwy’n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ar argymhellion yr adroddiad yn ddi-oed.”