Cymru i Bawb
Mae mis hwn yn nodi dwy flynedd ers i’r rhyfel ddod i ben yn yr Wcrain, lle bu miliynau o blant yn cael eu dadleoli, a llawer o bobl yn dod o hyd i amddiffyniad a chysur yma yng Nghymru. Yn ddiweddar cafodd y Comisiynydd gyfle i gyfarfod â grŵp o bobl ifanc yn ne Cymru, pobl ifanc oedd wedi ffoi o’u gwledydd cartref er mwyn ceisio darganfod lloches yma.
Roedd rhain yn cynnwys pobl ifanc rhwng 15 a 18 oed, unigolion gyda gobeithion, breuddwydion, uchelgeisiau a photensial eu hunain, yn ogystal â thrawma a thorcalon clir o’r hyn yr oeddent wedi’i brofi a’i adael ar ôl.
Mae Rocio wedi ysgrifennu am yr ymweliad hwn mewn blogbost, gan fyfyrio ar y cyd-destun cymdeithasol a gwleidyddol ehangach, a rôl addysg wrth greu Cymru i Bawb.
Darllenwch blogbost Rocio – Cymru i Bawb
Croeso, aelodau panel newydd!
Roeddem wrth ein bodd yn cyfarfod ag aelodau newydd ein panel ymgynghorol ifanc y mis hwn yn Llandudno a Phort Talbot. Mae ein panel yn archwilio, yn rhoi cyngor a chymorth ac yn rhoi her annibynnol i’r Comisiynydd, ac yn rhan hanfodol o gyflawni addewidion ein cynllun gwaith tair blynedd.
Os nad ydych wedi darllen ein cynllun tair blynedd ac eisiau dysgu mwy am obeithion Rocio ar gyfer plant yng Nghymru, gallwch wneud hynny yma:
Darllenwch ein cynllun tair blynedd
Profiadau RAAC
Roedd pobl ifanc yn Ysgol Caergybi yn gwerthfawrogi’r cyfle i rannu eu profiadau o’r aflonyddwch a achoswyd gan RAAC gyda’r Comisiynydd mewn ymweliad diweddar, gan gymharu yr aflonyddwch gyda’r pandemig.
Mewn post ar ei thudalen Facebook, dywedodd yr Ysgol:
Mae Comisiynydd Plant Cymru yn chwarae rhan ganolog wrth eiriolu dros hawliau a llesiant pobl ifanc. Bu ymweliad diweddar y Comisiynydd â’n hysgol yn gyfle unigryw i ddisgyblion drafod yr heriau sy’n deillio o’r cau rhannol oherwydd mesurau RAAC. Roedd ymgysylltu â’r Comisiynydd wedi galluogi myfyrwyr i leisio pryderon a rhannu profiadau’n uniongyrchol ag eiriolwr allweddol. Roedd y rhyngweithio hwn nid yn unig yn amlygu ymrwymiad y comisiynydd i ddeall effaith polisïau ar blant ond hefyd yn pwysleisio arwyddocâd cynnwys lleisiau ifanc wrth lunio penderfyniadau sy’n effeithio ar eu haddysg yn ystod y cyfnod hwn.
Ymweld ag elusen cancr Latch
Ymwelodd Rocio â Latch, elusen annibynnol sy’n cefnogi plant a’u teuluoedd tra maent yn cael eu trin am gancr.
Dywedodd pobl ifanc wrthym am bwysigrwydd aruthrol i allu parhau i ddysgu ochr yn ochr â derbyn triniaeth, sy’n adleisio’r negeseuon a glywsom yn ein hadroddiad ar addysg mewn lleoliadau gofal iechyd yng Nghymru.
Darllenwch ein hadroddiad ar addysg mewn lleoliadau iechyd
Y broblem gyda Theithio i Ddysgwyr
Mae Rocio wedi ysgrifennu am yr anghydraddoldebau a’r anghysondebau sylweddol sy’n wynebu plant ledled Cymru o ran cyrraedd yr ysgol.
Y mis hwn, rhoddodd dystiolaeth hefyd i un o bwyllgorau’r Senedd ar y mater hwn gan amlinellu ei phryderon, sy’n cynnwys bwlch yn nyletswyddau awdurdodau lleol i asesu risg.
Darllenwch flogpost Rocio – y broblem gyda theithio i ddysgwyr
Cyn i chi fynd
- Mater Y Mis – Mae dros 1,500 o blant wedi cymryd rhan ers mis Ionawr yn ein in pecynnau trafod newydd i ysgolion.
- Darllenwch ein tudalen safbwynt polisi diweddaraf, Hiliaeth mewn ysgolion uwchradd yng Nghymru.
- Mae ein tîm yn gallu cynnig cyngor a chymorth i blant ac yr oedolion sy’n gofalu amdanynt. Dysgwch fwy yma.