Addewid i blant â phrofiad o ofal
Dros ugain mlynedd yn ôl, o ganlyniad i fethiannau sylweddol i gefnogi plant mewn gofal, gwnaeth Cymru benderfyniad dewr, a chreu Comisiynydd Plant, a fyddai’n gweithio i ddiogelu a hybu hawliau plant a bod yn eiriolydd annibynnol dros blant Cymru.
Bu gennym ni dri chomisiynydd cyn i mi dderbyn y swydd am gyfnod o saith mlynedd yn 2022; mae pob un ohonyn nhw wedi bod yn bencampwyr tanbaid o blaid plant â phrofiad o ofal. Mae’n fraint aruthrol i mi gael bod yn bencampwr annibynnol i blant Cymru yn ystod y saith mlynedd nesa, ac rydw i mor falch bod Cymru wedi penderfynu creu Siarter Rhianta Corfforaethol i sicrhau bod pobl sydd mewn grym yn gwneud popeth o fewn eu gallu i’ch cefnogi.
Mae’r Siarter hon yn nodi sut bydd fy nhîm a minnau yn cadw’r addewidion hynny i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Darllenwch ein haddewid i blant â phrofiad o ofal (Yn agor ar dudalen we arall)
Cynhadledd Hawliau Plant
Pleser oedd gweld ystafell lawn ar gyfer ein cynhadledd hawliau plant ym Mhort Talbot ar 12 Mawrth. Roedd hi’n gyfle i weithwyr o sectorau gwahanol i ddysgu o’i gilydd, rhannu syniadau, a mwynhau clywed am y gwaith arbennig sydd yn barod yn digwydd i hyrwyddo a diogelu hawliau plant yng Nghymru. Cadwch lygaid ar ein cylchlythyr ac ein sianelu cymdeithasol ar gyfer digwyddiadau’r dyfodol.
Roedd y digwyddiad wedi seilio ar ein fframwaith Dull Hawliau Plant, canllaw ymarferol ar hawliau plant i bawb sy’n gweithio â phlant yng Nghymru.
Darllenwch am ein Dull Hawliau Plant (Yn agor ar dudalen we arall)
Adolygiad Teithio i Ddysgwyr yn ‘gwbl annigonol’
Mae adolygiad newydd Llywodraeth Cymru o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn gwbl annigonol, gan fethu â nodi unrhyw newid ystyrlon i’r canllawiau neu’r ddeddfwriaeth gyfredol, a newidiadau ystyrlon i brofiadau plant. Mae’n siomedig iawn i blant, eu teuluoedd, a’r rheini ohonom sydd wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd am yr ystod eang o broblemau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu ar hyn o bryd gyda chludiant o’r cartref i’r ysgol.
Mae adolygiad newydd Llywodraeth Cymru o’r Mesur Teithio gan Ddysgwyr yn gwbl annigonol, gan fethu â nodi unrhyw newid ystyrlon i’r canllawiau neu’r ddeddfwriaeth gyfredol, a newidiadau ystyrlon i brofiadau plant. Mae’n siomedig iawn i blant, eu teuluoedd, a’r rheini ohonom sydd wedi bod yn dweud wrth Lywodraeth Cymru ers blynyddoedd am yr ystod eang o broblemau y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu ar hyn o bryd gyda chludiant o’r cartref i’r ysgol.
Cliwciwch yma i ddarllen ymateb llawn y Comisiynydd (Yn agor ar dudalen we arall)
Recriwtio i’n Pwyllgor Archwiliad
Rydyn ni’n chwilio am ddau aelod newydd annibynnol i eistedd ar ein Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Bydd disgwyl i’r Aelodau graffu, herio, a darparu cyngor annibynnol i’r comisiynydd plant, Rocio Cifuentes MBE, ynghylch sut mae ei swyddfa’n cael ei llywodraethu, sut mae’n rheoli risg, a pha mor effeithiol ac effeithlon yw defnydd y tîm o arian cyhoeddus.
Cyn i chi fynd
Mater y Mis
Yn ystod mis Mawrth mae dros 1,000 o blant wedi rhannu eu barn gyda ni ar giniawau ysgol. Byddwn ni’n rhannu mwy o wybodaeth am yr hyn rydyn ni wedi clywed mis nesaf.
Fideo Hawliau Newydd
Gwyliwch ein fideo hawliau plant newydd! Mae hi’n adnodd arbennig ar gyfer cyflwyno plant (ac oedolion) i hawliau plant a rôl y Comisiynydd.
Cyngor
Mae ein tîm yn gallu cynnig cyngor a chymorth i blant ac yr oedolion sy’n gofalu amdanynt. Dysgwch fwy yma.