Y Tîm Cyngor a Chymorth ar Hawliau Plant

Mae gan bob plentyn yng Nghymru hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mae hynny’n cynnwys hawl i gael addysg, hawl i’r gofal iechyd gorau posib, a hawl i fod yn ddiogel.

Os bydd angen help arnoch chi i gael mynediad i’ch hawliau, cysylltwch â ni ar

Rhadffôn: 0808 801 1000

Mae swyddfa Comisiynydd Plant Cymru yma i hybu a diogelu hawliau a lles pob plentyn sydd fel arfer yn byw yng Nghymru.

Mae’r Tîm Cyngor a Chymorth ar Hawliau Plant yn cynnig llinell gymorth gyfrinachol, ddi-dâl sydd yno i gynghori a helpu plant a phobl ifanc neu’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw os byddan nhw’n teimlo bod plentyn wedi cael eu trin yn annheg. Rydyn ni’n gallu helpu plant a phobl ifanc hyd at 18 oed (neu 25 o dan rai amgylchiadau*) y gallai fod angen cyngor neu gymorth arnyn nhw i gael mynediad at unrhyw rai o’u hawliau dynol fel plant. Gallwn ni hefyd roi cyngor a chymorth i oedolion yng Nghymru sy’n gweithio gyda phlant neu’n gofalu amdanyn nhw. Byddwn ni’n gwneud yn siŵr ein bod ni’n cadw’r wybodaeth rydych chi’n ei rhannu gyda ni yn gyfrinachol, oni bai ein bod ni’n meddwl bod beth rydyn ni’n ei glywed yn awgrymu bod plentyn neu berson ifanc mewn perygl o gael niwed – os felly, byddwn ni’n rhannu’r wybodaeth gyda sefydliadau eraill sy’n gallu helpu i amddiffyn y plentyn.

*Mae’r gyfraith a sefydlodd ein swyddfa yn nodi y gallwn ni roi cyngor i blentyn neu berson ifanc hyd at 18 oed, neu hyd at 21 oed os oes ganddyn nhw brofiad o ofal, neu hyd at 25 oed os oes ganddyn nhw brofiad o ofal ac maen nhw’n dal ym myd addysg.

Meysydd lle gallwn ni helpu:

Byddwn ni bob amser yn ceisio rhoi cyngor neu gefnogaeth i chi’n uniongyrchol, neu eich cyfeirio ymlaen i’r man cywir. Er ein bod yn ceisio helpu gydag unrhyw fater sy’n effeithio ar blant a phobl ifanc, ein meysydd arbenigedd penodol yw:

  • Hawliau ym myd addysg
  • Gwasanaethau cymdeithasol
  • Mynediad at iechyd
  • Cwynion

Ein Tîm Cynghori cyfeillgar. Byddan nhw’n gwrando arnoch chi i ddeall eich sefyllfa cyn cynnig unrhyw gyngor neu gymorth. Os na allwn ni helpu, byddwn ni’n ceisio dod o hyd i rywun fydd yn gallu. Sut bynnag byddwch chi’n cysylltu â ni, ein nod fydd dod yn ôl atoch chi o fewn 3 diwrnod gwaith i’r cyswllt cychwynnol.

Rydyn ni ar agor rhwng 9yb a 5yh ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio ar wyliau banc.

Rydyn ni yma i helpu

Gallwch chi gysylltu â ni fel hyn:

Gwefan: www.complantcymru.org.uk

E-bost: cyngor@complantcymru.org.uk

Rhadffôn: 0808 801 1000