Ymateb Comisynydd Plant i Adroddiad Pwyllgor Seneddol ar fynediad plant anabl i addysg a gofal plant

Mae hwn yn adroddiad hynod arwyddocaol gan y pwyllgor. Un o bump casgliad allweddol yw bod hawliau plant i addysg yn cael eu torri yng Nghymru. Mae hon yn neges y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru ei chymryd o ddifrif. Ni allwn fethu cenhedlaeth o blant drwy wneud dim. Mae’r adroddiad yn cynnwys argymhellion cynhwysfawr a allai drawsnewid bywydau plant os ydyn nhw’n cael eu gweithredu gyda’i gilydd. 

Mae’r adroddiad yn adleisio’r hyn mae fy swyddfa wedi’i glywed drwy ein gwasanaeth gwaith achos ac mewn adroddiadau rydym wedi’u cyhoeddi dros y blynyddoedd diwethaf; rhannais rai o’r dystiolaeth hon â’r Pwyllgor, ac mae ein gwasanaeth Cyngor wedi parhau i glywed am effaith y profiadau yma na allen ni ganiatau i ddigwydd. Mae plant a theuluoedd yn aml yn cael eu gadael mewn limbo heb y cymorth neu’r ddarpariaeth sydd eu hangen arnynt, yn colli allan ar eu hawliau dynol, a’u hanghenion sylfaenol. 

Rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb yn llawn ac yn gynhwysfawr i’r adroddiad hwn yn ddi-oed, gan amlinellu’r camau y byddant yn eu cymryd i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu plant a theuluoedd ym mhob rhan o Gymru.