Ymateb Comisiynydd Plant i Adolygiad Ymarfer Plant Lola James

1 Awst 2024

Yn ymateb i Adolygiad Ymarfer Plant Lola James, dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:

“Rydyn ni wedi clywed bod Lola James yn blentyn oedd yn mwynhau’r awyr agored yn fawr, a phan roedd hi’n chwerthin roedd hi’n llanw’r  ystafell â llawenydd. Ond ymhlith y methiannau sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad heddiw yw‘r diffyg ffocws ar ei phrofiadau a’i hanghenion, a methiant i fabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar y plentyn, ar adeg pan roedd hi wir angen y gweithwyr proffesiynol o’i chwmpas i weithredu’n gyflym a phendant i’w chadw’n ddiogel.

“Er bod argymhellion yr adolygiad yn canolbwyntio ar y gwelliannau sydd eu hangen ar lefel leol, i ni, mae gwersi yr adolygiad yn ymestyn yn llawer ehangach – mae’n amlwg i ni fod yna bwyntiau dysgu cenedlaethol o’r adroddiad hwn. Mae rhai, fel rhannu gwybodaeth annigonol, yn themâu cyson mewn adolygiadau ymarfer plant ac yn tynnu sylw at wendid yn y modd y mae’r dysgu o achosion unigol yn gwella arfer cenedlaethol yn effeithiol. Rydym yn parhau i fod yn bryderus iawn am yr elfen hon o’n system amddiffyn plant – er ein bod wedi gofyn dro ar ôl tro am eglurder, mae’r pryder yma dal i fodoli: dydyn ni ddim yn gwybod pwy sy’n gyfrifol am ysgogi gwelliannau systemig ar gefn yr adolygiadau hyn, a phwy sy’n gyfrifol am ddwyn asiantaethau i gyfrif am wella arfer.

“Rydw i hefyd yn poeni am gyflymder y newid. Mae’r ymchwiliadau hyn yn ymdrin â’r troseddau mwyaf erchyll yn erbyn plant, ac eto rydyn ni’n ymwybodol o’n  gwaith bod yna gamau gweithredu o Adolygiadau Ymarfer Plant blaenorol sydd heb wedi cael eu  rhoi ar waith yn llawn flynyddoedd ar ôl iddynt gael eu cyhoeddi. Mae angen system lawer cryfach o berchnogaeth glir, cyfeiriad clir, ac atebolrwydd clir. Yn syml iawn, mae cwestiynau difrifol i Lywodraeth Cymru, cwestiynau rydw i wedi’u gofyn yn gyson dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd heb eu hateb.”