Datganiad y Comisiynydd Plant ar ddigwyddiadau yn ninasoedd a mewn trefi y DU dros yr wythnos ddiwethaf

Mae’r digwyddiadau sydd wedi digwydd ar draws trefi a dinasoedd y DU dros yr wythnos ddiwethaf wedi fy syfrdanu a’m brawychu. Yn enwedig oherwydd llofruddiaethau erchyll plant a fu’n esgus iddynt, ac mae ein calonnau’n mynd allan at y teuluoedd hynny sy’n dal i alaru.  Yr hyn a ddilynodd oedd golygfeydd o drais sy’n cynnwys targedu pobl oherwydd eu hil neu grefydd, neu oherwydd o ble mae nhw wedi dod. 

Dwi’n gwybod fod plant a phobl ifanc ledled Cymru wedi bod yn bryderus iawn am yr hyn y maent wedi bod yn ei weld a’i glywed yn y newyddion ac ar-lein, ac nid ydynt yn teimlo’n ddiogel. Roeddwn yn drist o glywed gan un rhiant fod eu plentyn yn rhy ofnus i fynd i chwarae yn y parc a gofynnodd i’w mam pam nad oedd rhai pobl yn eu hoffi.  Ni ddylai plant dreulio eu gwyliau haf fel hyn. 

Ond wrth weld dangosiad o undod a chefnogaeth mewn cymaint o drefi a dinasoedd neithiwr, mae hyn yn rhoi rheswm i ni fod yn obeithiol. Pobl gyffredin o bob oed, cefndir ac ethnigrwydd yn dangos nad ydynt yn goddef hiliaeth a thrais difeddwl yn eu cymunedau. Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i fod yn Genedl Noddfa, yn wlad o ddiogelwch a chroeso, ac i fod yn Gymru Wrth-hiliol. Hefyd, mae gwaith gwych yn digwydd bob dydd ledled Cymru i hyrwyddo amrywiaeth a chydlyniant cymunedol. 

Ond mae angen i fwy ddigwydd yn amlwg. Mae angen i ni gyd fyfyrio ar sut esgynodd y sefyllfa hon, a sut y gellir ei hatal rhag ddigwydd eto. Rwyf wedi siarad yn flaenorol am effaith hiliaeth ar blant a phobl ifanc yng Nghymru, a chyhoeddodd fy swyddfa ymchwil ar y pwnc hwn y llynedd. Galwom am fwy o addysg i blant ac oedolion ar y pwnc, ac am ffyrdd gwell o ymateb i ddigwyddiadau hiliol pan fyddant yn digwydd. Mae angen herio gwybodaeth anghywir a hefyd ar y ffordd y caiff ei ledaenu, ac mae gan y Ddeddf Diogelwch Ar-lein newydd ran allweddol i’w chwarae. 

Am y tro, gadewch i ni ddal ein gafael mewn gobaith ar y negeseuon cryf o undod a glywsom neithiwr, a chofiwch – yng ngeiriau Jo Cox – fod gennym fwy yn gyffredin na’r hyn sy’n ein rhannu. Os ydych yn blentyn neu’n berson ifanc a’ch bod yn poeni, mae’n bwysig dweud wrth oedolyn neu sefydliad y gallwch ymddiried ynddo. Gellir cysylltu â’n swyddfa ar 01792 765600 neu ewch i’n gwefan www.complantcymru.org.uk 

Dyma sefydliadau gall eich chi helpu os ydych yn teimlo’n bryderus: 

MEIC

CHILDLINE