Ymweld ag Oasis
Elusen o Gaerdydd yw Oasis sy’n helpu ffoaduriaid a cheiswyr lloches i integreiddio o fewn eu cymunedau lleol. Fel rhan o’n hamcan sefydliadol o ‘gadw mewn cysylltiad’, roedden ni’n ddiolchgar i gael croeso cynnes gan Oasis, lle dysgon ni fwy am eu gwaith a’r bobl ifanc maen nhw’n eu helpu.
Mater y Mis
Yn ystod mis Ebrill 2024 gofynnon ni i blant a phobl ifanc am eu barn am eu teithiau i’r ysgol drwy ein hadnodd Mater y Mis. Cymerodd dros 2000 o blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru ran. Dywedodd y mwyafrif o blant a phobl ifanc bod eu teithiau ysgol yn ddiogel ac yn hygyrch, ond clywson ni hefyd fod traffig, a cheir yn mynd yn rhy gyflym, yn cyfrannu at ei gwneud yn anodd cyrraedd yr ysgol. Byddwn yn cyhoeddi adroddiad llawn ar ein gwefan y mis nesaf.
Eisteddfod yr Urdd
Rydyn ni wedi cael dyddiau prysur yn Eisteddfod yr Urdd, yn cyfarfod â phlant o bob rhan o Gymru a’r oedolion sy’n eu cefnogi. O weithgareddau i blant ifanc gyda Mudiad Meithrin, i roi adnoddau a gwybodaeth i athrawon a gweithwyr ieuenctid gydag Estyn, Cymwysterau Cymru, cyngor Powys, Cymru Ifanc, a Senedd Ieuenctid, ni wedi joio’n fawr!
Grwp ‘Hope’
Hyrwyddo ac amddiffyn hawliau pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yw thema cynhadledd arbennig eleni sy’n cael ei drefnu gan Rwydwaith Ewropeaidd Ombwdsmon i Blant (ENOC). Dyma rywfaint o’r gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud gyda’r grŵp gwych Hope, o Gastell-nedd, i wneud yn siŵr bod lleisiau Cymraeg yn cael eu clywed.
Gwyliwch y fideo i ddysgu mwy!
Maes y Coed
Diolch i gyngor yr ysgol a staff ysgol arbennig Maes Y Coed am ein croesawu yn gynharach y mis hwn. Roedd clybiau, cyfleoedd i chwarae, a gweithgareddau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol yn rhai o’r materion a godwyd gan y cyngor ysgol gyda’r comisiynydd. Bydd y Comisiynydd yn parhau i dynnu sylw Llywodraeth Cymru at y rhwystrau sy’n wynebu plant ag anghenion dysgu ychwanegol.
Sefydliad sy’n ystyriol o drawma cyntaf – Cam Cyntaf
Am bob 100 o bobl yng Nghymru, mae 50 wedi cael profiad niweidiol yn ystod plentyndod. Cawson ni’r pleser o groesawu Bronwyn o Hyb Ace Cymru i’n swyddfa ym Mhort Talbot yn ddiweddar. Rhoddodd Bronwyn fewnwelediad hynod ddiddorol i waith Hyb Ace Cymru i adeiladu cenedl sy’n ystyriol o drawma. Dyma ein cam cyntaf o ddod yn sefydliad sy’n ystyriol o drawma a phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) eleni. Rydym hefyd yn edrych ymlaen at ddod yn aelodau gweithgar o gymuned ymarfer yr Hyb er mwyn sicrhau bod ein holl ymarfer yn ystyriol o drawma.
Seminar Hawliau Plant
Ar 19 Mehefin byddwn yn cyd-gyflwyno seminar gyda Chyfraith Gyhoeddus Cymru a Phrifysgol Abertawe yn canolbwyntio ar Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
Gallwch gofrestru ar y ddolen hon