#WythnosGwaithIeuenctid24
Mae gweithwyr ieuenctid ledled Cymru yn chwarae rhan hanfodol wrth hyrwyddo ac amddiffyn hawliau plant. I nodi #WythnosGwaithIeuenctid24 ac i ddiolch i bawb sy’n gwneud gwaith ieuenctid mor werthfawr ac arbennig, mae’r Comisiynydd wedi recordio’r neges arbennig hon.
Datganiad diwygio radical ar gyfer pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal
Mae gan bob plentyn a pherson ifanc yr hawl i gyrraedd eu potensial llawn, ac mae’n ofnadwy o bwysig bod yr hawl hon, a phob hawl arall o dan y CCUHP, yn ffurfio ein gwaith gyda phlant a phobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal.
Roedd Rocio yn bresennol wythnos diwethaf pan lofnododd y Prif Weinidog y Datganiad diwygio radical o ofal plant a phobl ifanc a’r rhai sy’n gadael gofal, gan dynnu sylw at yr hyn y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau plant sy’n derbyn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal.
Ym mis Mawrth cyhoeddwyd ein haddewid ein hunain i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal.
Digwyddiad Pride Penarlâg
Cawsom amser gwych yn dathlu Mis Pride yn Ysgol Uwchradd Penarlâg, Sir y Fflint, wrth gynnal gweithdai ar hawliau plant i beidio profi gwahaniaethu. Diolch i Gyngor Sir y Fflint am drefnu’r digwyddiad hwn ac am ein gwahodd i gymryd rhan.
Wythnos Ffoaduriaid 2024
Roedd e’n fraint i weld y casgliad hardd a theimladwy o waith celf a gynhyrchwyd gan blant sy’n ffoaduriaid, a arddangoswyd gan Gyngor Abertawe mewn digwyddiad arbennig #Wythnos Ffoaduriaid2024 yn gynharach y mis hwn.
Anrhydedd oedd cael bod yn bresennol a gwrando ar y bobl ifanc sydd wedi dod o hyd i noddfa yn Abertawe. Yn yr un modd, siaradodd y Comisiynydd yn nigwyddiad Ysgolion Noddfa Abertawe, i ddathlu gwaith ysgolion ledled y sir a ddarparodd croeso cynnes i’r holl blant a theuluoedd sydd wedi symud i’r ardal i chwilio am ddiogelwch.
Diwrnod Chwarae Rhyngwladol
Cafwyd y Diwrnod Chwarae Rhyngwladol cyntaf erioed y mis hwn, gyda’n tîm yn nodi’r achlysur yma gydag ymweliad arbennig o egnïol ag Ysgol Rhosafan ym Mhort Talbot.
Mae ein fideo o’r ymweliad yn dal hwyl a sbort y dydd, ac yn rhannu canlyniadau ein Mater y Mis ar gyfer mis Mai, lle bu dros 2000 o blant a phobl ifanc yn dweud wrthym am eu hamser egwyl a chwarae.
Dathlu Diwrnod Chwarae Rhyngwladol gyda Ysgol Gyfun Gymraeg Rhosafan
Her hinsawdd Cymru
Roedd hi’n bleser cael gwahoddiad i’r Senedd i siarad yn nigwyddiad Her Hinsawdd Cymru mewn partneriaeth ag Earthshot ac o dan lywyddiaeth Eluned Morgan AS, lle cyflwynodd plant o ysgolion canolbarth a gorllewin Cymru eu gwaith a’u syniadau ar frwydro yn erbyn anghyfiawnder hinsawdd mewn ffyrdd creadigol.
Mae newid yn yr hinsawdd yn bryder rydym yn ei glywed yn rheolaidd gan blant a phobl ifanc, ac yn bwnc rydym am archwilio ymhellach. Cadwch lygad ar ein hadnoddau a’n hadroddiadau Mater y Mis, lle byddwn yn holi plant a phobl ifanc am faterion cyfoes drwy becyn trafod yn yr ystafell ddosbarth.
Ymweliadau ag ysgolion a grwpiau
Diolch i’r holl ysgolion a grwpiau sydd wedi ein croesawu dros y mis diwethaf. Rydyn ni wedi gwerthfawrogi y cyfle i wrando ar y pethau sy’n bwysig i chi, ac i drafod hawliau plant!