Wrth wneud sylw yn dilyn dedfrydiad Huw Edwards, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes:
“Roedd rhain yn droseddau difrifol dros ben. Mae creu a rhannu unrhyw ddelweddau anweddus o blant a phobl ifanc yn parhau cam-driniaeth rhywiol ac yn creu trawma parhaol i blant.
“Os oes gennych bryder yn ymwneud â delweddau anweddus o blant, rhowch wybod i’r heddlu am y pryder hwn. Gall pobl hefyd cysylltu gyda’r Internet Watch Foundation ynglyn â delweddau neu fideos o gam-drin plant yn rhywiol. I gael unrhyw gyngor mewn perthynas â materion amddiffyn plant gallwch gysylltu am ddim â’m gwasanaeth cyngor a chymorth annibynnol, neu’r NSPCC.”