Cynhadledd Ewropeaidd o Gomisiynwyr Plant – ffocws ar hawliau plant mewn gofal
Yn gynharach mis yma aeth y Comisiynydd i gynhadledd yn Helsinki o sefydliadau hawliau plant o bob rhan o Ewrop, yn dod at ei gilydd i drafod thema eleni sef Diogelu a Hyrwyddo Hawliau Plant mewn Gofal Amgen.
Roedden ni’n ddiolchgar i’r holl bobl ifanc o bob rhan o Ewrop a rannodd yr argymhellion ar wella cefnogaeth i blant mewn gofal amgen, a ddatblygwyd i ddechrau mewn fforwm pobl ifanc penodol yn yr haf. Fe gefnogon ni bobl ifanc o Gymru i gymryd rhan yn y gwaith hwn a byddwn yn cyflwyno eu profiadau ac argymhellion pwerus mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd mis Tachwedd eleni. Gallwch ddarllen mwy am waith y bobl ifanc yma.
Roedd hi hefyd yn werthfawr iawn i ddysgu gan Gomisiynwyr ledled Ewrop am eu heriau gwaith a’u llwyddiannau, ac roedd llyfrgell Helsinki yn uchafbwynt hefyd – man cyhoeddus anhygoel wedi’i gynllunio i ddiwallu anghenion y gymuned gyfan gan gynnwys man ieuenctid!
Gwirfoddoli banciau bwyd
Diolch o galon i’r Trussell Trust am helpu ein tîm i wirfoddoli mewn gwahanol fanciau bwyd ledled Cymru y mis hwn.
Mae wedi bod yn gyfle i ddysgu mwy am waith rhagorol yr Ymddiriedolaeth a’r miloedd o wirfoddolwyr sy’n cefnogi teuluoedd sy’n byw mewn tlodi drwy’r gwasanaeth hanfodol hwn.
Dyma adlewyrchiad gan aelod o’n tîm:
“Yr hyn wnaeth fy nharo i ar ein hymweliad oedd eu dull cyson o ganolbwyntio ar yr unigolyn, gan bob aelod o staff. Popeth – o ofynion dietegol a bwyd anifeiliaid anwes, i wirfoddolwyr sy’n gweithredu fel presgripsiynwyr cymdeithasol trwy gyfeirio cleientiaid at gyfleoedd newydd a rhoi ymdeimlad newydd o bwrpas i bobl. Roedd cynhesrwydd ac agwedd anfeirniadol y staff yn gwneud i’r holl brofiad deimlo’n bersonol ac un sy’n canolbwyntio ar y gymuned”.
Mae aelodau eraill o staff wedi cael eu hysbrydoli i ymchwilio i’w cyfleoedd gwirfoddoli eu hunain, ac i bob un ohonom, mae wedi bod yn gyfle pwysig i gysylltu â’n cymunedau lleol, sef un o’n nodau sefydliadol.
Siarad fel rhan o ‘Gynhadledd Hawliau Plant a’r Gyfraith’
Yr wythnos diwethaf siaradodd y Comisiynydd ar ddechrau cynhadledd Canolfan Gyfreithiol y Plant ar hawliau plant a’r gyfraith.
Helpodd y Comisiynydd i ddarparu cyd-destun ynghylch rhai o faterion allweddol y digwyddiad, gan ganolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol, presenoldeb yn yr ysgol, a gwarcheidiaeth i blant ar eu pennau eu hunain – materion y bydd Rocio yn gwneud argymhellion arnynt yn ei hadroddiad blynyddol mis nesaf.
Roedd hefyd yn gyfle i dynnu sylw at dystiolaeth y comisiynydd i ymchwiliad Covid y DU, lle bydd hi eto yn cyflwyno’r achos dros ymgorffori CCUHP yn llawn i gyfraith ddomestig yng Nghymru.
Gallwch wylio’r cyfeiriad fideo llawn yma.
Yn y newyddion
Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru bod pob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru bellach yn gallu cael prydau ysgol am ddim.
Mewn ymateb, dywedodd y Comisiynydd:
“Mae’n teimlo’n bwysicach nag erioed bod y prif brydau y mae plant yn eu cael yn yr ysgol yn rhoi’r egni a’r maetholion sydd eu hangen arnynt i dyfu, i chwarae, ac i ddysgu. Mae’n gyflawniad arbennig i roi pryd o fwyd am ddim i bob plentyn ysgol gynradd yng Nghymru, ond mae hi hefyd yn hanfodol bod plant sy’n cymryd mantais o’r cynnig yn derbyn pryd o fwyd sy’n eu bodloni.
“Fis Mawrth, clywais i yn uniongyrchol gan 490 o blant a phobl ifanc ar draws Cymru trwy holiadur cipolwg ar y mater yma. Dywedodd llawer eu bod nhw dal eisiau bwyd ar ôl bwyta eu cinio ysgol, a roedd pryderon hefyd gan athrawon am faint y pryd o fwyd y mae plant hŷn yr ysgol yn eu derbyn. Dylai fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen ac adolygu’r canllawiau perthnasol, gan barhau i wrando ar leisiau plant a phobl ifanc, er mwyn sicrhau bod y cynnig yma yn cyrraedd ei botensial llawn. Mae fy nhîm wedi cwrdd gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i rannu ein canfyddiadau; rydyn ni’n edrych ymlaen at barhau i gyfrannu at hyn wrth i’r gwaith symud ymlaen.”
Ymgynghoriad diodydd ynni a lleoliad bwyd
Mae dros 900 o blant a phobl ifanc ledled Cymru eisoes wedi cymryd rhan yn ein hadnodd Mater y Mis ym mis Medi, gan rannu eu barn ar leoliad bwyd mewn siopau, a defnydd diodydd ynni ymhlith plant. Byddwn ni’n sicrhau bod y lleisiau yma yn gyfrannu’n uniongyrchol i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, sy’n golygu bod plant ledled Cymru unwaith eto yn rhannu eu barn â llunwyr polisi drwy ein hadnodd ystafell ddosbarth.
Rydym yn cyhoeddi adroddiad byr yn dilyn pob un Mater y Mis, sy’n amlinellu’r prif ganfyddiadau ac yr hyn rydyn ni’n gwneud gyda’r wybodaeth, a gallwch ddod o hyd i rhain ar ein gwefan.
Ffônau mewn ysgolion yw pwnc ein Mater y Mis nesaf. Bydd hyn yn cael ei gyhoeddi ar 7 Hydref. Er mwyn helpu ni i gyrraedd pob ysgol a grwp yng Nghymru gyda’n hadnodd Mater y Mis, byddwn yn ddiolchgar pe bai chi’n rhannu’r linc gyda’r ysgolion a chlybiau yn eich rhwydwaith chi.
Pwêr propiau
Gall egluro swyddi a phwerau’r Comisiynydd i bobl ifanc fod yn heriol, ond yn ffodus mae gan ein tîm ymgysylltu lwyth o bropiau i’n helpu! Diolch am yr help ychwanegol a gawsom gan staff Ysgol Maesydderwen ym Mhowys!
Dull Hawliau Plant – Cynghorau cymunedol
Bob blwyddyn rydyn ni’n cwrdd â miloedd o blant ledled Cymru i siarad am eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.
Ond mae ein tîm ymgysylltu hefyd yn gweithio gydag oedolion pan mae eu gwaith yn effeithio ar blant a phobl ifanc – o fyrddau iechyd, ysgolion, cynghorau sir – a’r wythnos hon cawsom y pleser o ymuno â Chyngor Cymuned Bishopston ar gyfer sesiwn ar CCUHP, a sut y gall hawliau helpu i lunio gwasanaethau i blant.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwybod mwy, cysylltwch â ni, ac edrychwch ar ein canllaw dwyieithog ac am ddim, Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant, ar gyfer sefydliadau yng Nghymru.