Yn ymateb i ddogfen BBC Wales Investigates ar Neil Foden, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru Rocio Cifuentes:
“Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol. Rydw i’n asesu opsiynau yn dilyn hyn, gan nodi cyfyngiadau’r llinell amser y bydd gwaith yr Adolygiad Ymarfer Plant yn ei ystyried.
“Dydw i ddim eisiau tanseilio’r Adolygiad ond rydyn ni wedi clywed heddiw am brofiadau sydd y tu allan i’w amserlen, a dylid clywed y profiadau hynny. Mae gen i bwerau i edrych ar y meysydd hyn ac rydw i’n ystyried y camau gorau.”