Yn ymateb i ganlyniadau yr holiadur cenedlaethol SHRN, a gyhoeddywd ar 17 Hydref, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Mae canlyniadau arolwg cenedlaethol y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Ysgolion yn bwysig iawn i’n helpu i ddeall materion a heriau allweddol sy’n wynebu plant a phobl ifanc yng Nghymru. Un o’r themâu allweddol sy’n rhedeg drwy gydol y ffigurau yw anghydraddoldeb, er enghraifft plant o deuluoedd gyda mwy o arian yn dweud eu bod yn bwyta mwy o ffrwythau a llysiau ac yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol na’r rhai o deuluoedd gyda llai o arian. Mae rhywedd hefyd yn anghydraddoldeb nodedig, gyda merched yn llai tebygol o gymryd rhan mewn ymarfer corff ac yn fwy tebygol o adrodd am les meddyliol gwael.
‘Pan fo adnoddau mor gyfyngedig, mae’n bwysicach nag erioed i Lywodraeth Cymru gymryd sylw o’r canlyniadau hyn; maent yn atgof pwysig o’r cyfleoedd cyfyngedig a roddir i blant o deuluoedd gyda llai o arian. Dylid defnyddio’r canfyddiadau i lywio gwaith parhaus, gan gynnwys adolygu’r canllawiau ar gyfer bwyd ysgol, y Cynnig Egnïol Dyddiol ar gyfer ymarfer corff mewn ysgolion, y strategaeth iechyd meddwl newydd, ac i ganolbwyntio ymdrechion ar gyfleoedd cyfartal i bob plentyn.
‘Yn anffodus, ond nid yw’n syndod, mae’r ymchwil hon yn amlygu bwlio fel mater arwyddocaol i blant a phobl ifanc; rhywbeth sy’n gyson uchel ar restrau plant o bryderon mewn arolygon cenedlaethol. Mae hyn yn cynnwys yn fy arolwg cenedlaethol fy hun yn 2022, a barhaodd i bwysleisio cysylltiad rhwng bwlio a nodweddion gwarchodedig, gyda’r rhan fwyaf o’r bwlio y mae plant yn ei brofi yn digwydd yn yr ysgol. Mae gan bob plentyn hawl i addysg, hawl i fod yn ddiogel, a’r hawl i gyrraedd eu potensial llawn. Mae bwlio yn torri’r holl hawliau hyn. Mae angen brys i Lywodraeth Cymru fynd i’r afael â gwendidau o ran sut mae data ar fwlio, gan gynnwys ar unrhyw nodweddion gwarchodedig perthnasol, yn cael ei gasglu gan ysgolion a’i ddefnyddio i wella canlyniadau i blant yn lleol ac yn genedlaethol. Disgwylir cyhoeddi canllawiau hir-ddisgwyliedig o’r diwedd ar gyfer ymgynghoriad yn yr hydref a byddaf i a fy nhîm yn craffu’n ofalus.”