Cân Hawliau Plant – Mae gennym hawliau

Dechreuir pob gwers â’r gân “Mae Gennym Hawliau”. Mae’r gân hon yn archwilio hawliau plant ac yn trafod y pethau sydd eu hangen ar blant er mwyn tyfu i fyny’n hapus, iach a diogel.

Ysgrifennwyd a chyfansoddwyd y gân gan Sara Lewis, Dyfan Jones a Blwyddyn 3 am Ysgol Gynradd Creigiau.

Mae’r gân yn ffordd wych o agor pob gwers ac yn rhywbeth y bydd y disgyblion yn ei adnabod. Awgrymwn fod eich dosbarth yn canu’r gân mewn cylch, gyda chi yn arwain ar symudiadau (efallai y byddwch am ddefnyddio Arwyddion Makaton).

DARLLENWCH Y GEIRIAU

‘MAE GENNYM HAWLIAU’ GAN COMISIYNYDD PLANT CYMRU | GWRANDAWIAD AM DDIM AR ICLOUD

‘MAE GENNYM HAWLIAU’ GAN COMISIYNYDD PLANT CYMRU | FERSIWN MP3

CERDDORIAETH BRINTIEDIG AR GYFER ‘MAE GENNYM HAWLIAU’