Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth yr Alban ar y terfyn dau blentyn, dywedodd Rocio Cifuentes MBE:
“Does dim lle mewn cymdeithas ofalgar am bolisiau fel y terfyn dau blentyn, sy’n atal plant rhag derbyn eu hawliau sylfaenol ac yn eu cosbi am amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi nodi ei bwriad i amddiffyn plant rhag effaith y polisi hwn; mae pwysau sylweddol bellach ar Lywodraeth Cymru i weithredu gyda’r un brys a phenderfyniad ar gyfer plant yng Nghymru.
Lle mae ewyllys, mae yna ffordd, ac mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru gweithio gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i’r ffordd honno i’r miloedd o deuluoedd fydd yn treulio’r Nadolig yn poeni am roi bwyd ar y bwrdd a gwresogi eu cartrefi, ac yn ysu am newid.”