Roedd 62% o’r plant a atebodd arolwg ciplun yn cefnogi gwaharddiad a gynigiwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddiodydd egni i blant o dan 16 oed.
Pan gawson nhw eu holi am yfed diodydd egni, dywedodd 66% fod rhai neu lawer o’r plant eu hoed nhw yn yfed diodydd egni.
Atebwyd yr arolwg, a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru, gan 610 o blant 7-18 oed yn ystod mis Medi.
Mae Llywodraeth Cymru wrthi ar hyn o bryd yn adolygu’r ymatebion i ymgynghoriad diweddar ar gynigion a fyddai’n golygu bod gwaharddiad ar werthu diodydd egni i blant o dan 16 yng Nghymru. Roedd y cynigion hefyd yn cynnwys cyfyngu ar ail-lenwi diodydd melys ychwanegol yn ddi-dâl mewn bwytai, a phennu rheolau newydd ynghylch lleoliad a hyrwyddo bwydydd. Dywedodd y Comisiynydd Plant ei bod hi am gyfrannu barn pobl ifanc i’r ymgynghoriad, ac mae wedi rhannu’r canlyniadau’n uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru.
Pan ofynnwyd pam roedden nhw’n cefnogi neu’n gwrthwynebu gwaharddiad ar ddiodydd egni i bobl ifanc o dan 16 oed, dywedodd bron traean o’r plant fod diodydd egni yn gallu achosi problemau iechyd, gan gynnwys problemau gyda’r galon.
Cyfeiriodd plant hefyd at y lefel uchel o gaffein a siwgwr mewn diodydd egni.
Ymhlith sylwadau’r athrawon a fu’n cymryd rhan yn yr arolwg roedd y ffaith bod diodydd egni yn cael effaith negyddol ar ddysgu, ac yn effeithio ar hwyliau disgyblion a’u lefelau canolbwyntio.
Dywedodd un athro fod disgyblion ‘yn mynd yn gaeth, ac yn methu canolbwyntio oherwydd y diodydd egni a’u heffaith.’ Galwodd un arall ddiodydd egni yn ‘broblem enfawr’ sy’n ‘effeithio ar hwyliau ac ymddygiad bob dydd.’
Lle caiff bwyd ei arddangos
Teimlai rhyw 60% o’r plant a’r bobl ifanc a atebodd yr arolwg fod ble mae bwyd llawn siwgwr, halen neu fraster yn cael ei arddangos bob amser neu weithiau’n gwneud gwahaniaeth i’w penderfyniad i’w brynu neu beidio.
Soniodd llawer o blant a phobl ifanc am leoli pethau wrth y til neu ym mlaen siopau, a bod bwydydd aniachus yn ‘dal eu llygad’.
Dywedodd bron tri chwarter fod cynigion prynu un, cael un am ddim yn gwneud iddyn nhw eisiau prynu bwydydd aniachus. Sonion nhw eu bod yn teimlo fel petaen nhw’n colli cyfle i gael bwyd am ddim os nad oedden nhw’n eu prynu, neu bod lluniau o’r bwyd yn dylanwadu arnyn nhw.
Ail-lenwi diodydd
Cafwyd ymateb mwy cymysg ymysg plant a phobl ifanc pan holwyd oedden nhw’n cefnogi cynigion Llywodraeth Cymru i osod cyfyngiadau ar ail-lenwi diodydd melys am ddim mewn bwytai.
Roedd 31% yn cefnogi cynigion, ond dywedodd 42% y byddai stopio ail-lenwi diodydd am ddim yn syniad gwael.
Pan ofynnwyd pam roedden nhw’n gwrthwynebu gwaharddiad, yr ateb mwyaf cyffredin ymhlith plant a phobl ifanc oedd cost uchel bwyta ac yfed allan, a phryderon y byddai gwaharddiad yn gwneud hynny’n llai fforddiadwy.
Dywedodd un plentyn ‘mae mynd allan am fwyd a diod eisoes yn costio llawer o arian, ac os bydd angen i chi dalu am ail ddiod, bydd yn ddrud ofnadwy.’ Dywedodd un arall ‘oherwydd ei fod yn arbed arian i nhad’.
Wrth wneud sylwadau ar ganlyniadau’r arolwg, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru:
‘Ar y cyfan roedd y plant a gwblhaodd fy arolwg yn cefnogi cynlluniau i wahardd diodydd egni i blant o dan 16 oed, ac rwy’n credu bod yr ymatebion yn dangos dealltwriaeth glir o effeithiau posibl y diodydd hynny ar iechyd. Mae hefyd yn glir bod rhai athrawon a fu’n rhan o’r arolwg yn pryderu am effeithiau’r cynnyrch yna yn y dosbarth.
‘Ar gwestiynau eraill, roedd plant a gwblhaodd fy arolwg yn glir bod hyrwyddo bwydydd aniachus yn gwneud gwahaniaeth mawr, ac mae angen ystyried barn pobl ifanc wrth symud y cynigion hyn ymlaen.
‘Roedd yn ddiddorol bod llai o blant yn cefnogi cyfyngiadau ar ail-lenwi diodydd melys a bod arian yn destun cynifer o atebion ynghylch gwrthwynebu’r gwaharddiad yma. Mae plant yn boenus o ymwybodol o’r pwysau ariannol o’u cwmpas, ac roedd yn drist darllen ymatebion yn pryderu ynghylch sut byddai gwaharddiad yn effeithio ar brisiau. Roedd llawer o ymatebion hefyd yn nodi effaith negyddol diodydd melys ar iechyd, ac rydw i’n croesawu ymdrechion i wneud amgylcheddau bwyd yn iachach. Rwy’n falch o fedru rhannu barn plant fel rhan o’r ymgynghoriad hwn, ac fe hoffwn i ddiolch i’r holl blant a gymerodd ran yn yr arolwg ciplun. Byddwn i’n annog Llywodraeth Cymru i ystyried y safbwyntiau hynny’n ofalus fel rhan o’r camau nesaf.”
Nodiadau i olygyddion
- Ni ellir tybio bod canlyniadau’r arolwg hwn yn gynrychioliadol o’r boblogaeth gyfan, oherwydd cyfyngiadau sampl